Sut galla i gefnogi?
Gallwch ddewis rhwng nifer o ffyrdd i gyfrannu i'r gronfa, ac mae hi'n broses hawdd a chyflym:

1. Cyfraniad un tro trwy PayPal neu gerdyn credyd / debyd

2. Cyfrannu mewn rhandaliadau misol trwy PayPal - £20 y mis dros gyfnod o 9 mis.

3. Sefydlu taliad uniongyrchol misol i'r Gronfa (gan ddewis y swm)

4. Anfon siec yn daladwy i Urdd Gobaith Cymru

Faint galla i roi?
Ar hyn o bryd, gofynnwn yn garedig am nawdd o £180. Byddai hyn yn gyfraniad sylweddol am wyliau llawn gweithgareddau i un plentyn, yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, Glan-llyn, Caerdydd neu Pentre Ifan. 

Pecynnau nawdd i gwmnïau a busnesau
Mae sawl pecyn ar gael:

  • £180 yn noddi lle i 1 plentyn
  • £500 yn noddi lle i 3 plentyn
  • £1000 yn noddi lle i 6 plentyn
  • £5000 yn noddi lle i 30 plentyn

Gallwch wneud cyfraniad drwy unrhyw un o’r dulliau uchod neu gallwn eich anfonebu.

I drafod y pecynnau cysylltwch â ni: cronfa@urdd.org

Am beth bydd fy arian yn talu?
Yn ogystal a thrafnidiaeth, llety, a bwyd i blentyn am 5 diwrnod, bydd eich cyfraniad yn talu am hyd at 35 o weithgareddau cyffrous, gan gynnwys canŵio, rafftio, weiren zip, beiciau modur, sgïo, nofio, canu a dawnsio, heb sôn am y cyfle i wneud ffrindiau newydd a chreu atgofion oes!

Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn cadw mewn cysylltiad trwy gylchlythyr blynyddol i ddangos i chi sut mae eich cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth, ac i gydnabod eich cyfraniad hael byddwch hefyd yn derbyn: 

  • Bathodyn pin cyfrannwr
  • Gwahoddiad i’r gwersylloedd neu i ddigwyddiad arbennig
  • Cerdyn post o’r gwersyll
  • Tystysgrif (i gwmnïau)
  • Graffeg i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol (i gwmnïau)
  • Cydnabyddiaeth ar wefan a chyfryngau cymdeithasol yr Urdd (cyfraniadau dros £500)