Beth yw Cronfa Cyfle i Bawb?
Mae Cronfa Cyfle i Bawb yr Urdd yn rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru i fwynhau gwyliau haf, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.
Gall rhieni, warchodwr neu athrawon wneud cais i’r gronfa i dalu am wyliau yn un o wersylloedd haf yr Urdd i blentyn neu berson ifanc sy’n dod o gefndir incwm isel.
Gellir gwneud y broses yma trwy ysgol eich plentyn neu yn uniongyrchol drwy’r rhieni / gwarcheidwaid.
Pwy sy’n gymwys?
- plentyn/person ifanc rhwng 8 ac 18 oed
- plentyn/person ifanc sy’n siarad Cymraeg yn rhugl neu’n dysgu
- plentyn/person ifanc y mae ei rieni/gwarcheidwaid yn gymwys am brydau ysgol am ddim NEU gredydau treth gwaith
- plentyn/person ifanc yr ydych chi’n teimlo y byddai’n elwa o Gwrs Haf yn un o Ganolfannau’r Urdd.
Beth yw’r cynnig?
Bydd y gronfa yn talu am bris cyfan y cwrs, ac hefyd trafnidiaeth i’r Gwersylloedd. Gweld cyrsiau 2024.
Beth sy’n digwydd nesa?
Y dyddiad cau yw dydd Llun 22 Ebrill 2024.
Bydd y panel yn cwrdd ac yn asesu’r holl geisiadau am y tro cyntaf ac yn dyrannu llefydd. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan bwyllgor llywio sy’n cynnwys Cyfarwyddwr Canolfannau yr Urdd, un o Ymddiriedolwyr yr Urdd ac aelod ifanc o'r byrddau.
Mae nifer y lleoedd fydd ar gael yn dibynnu ar lefel y cyllid a dderbynnir, felly bydd pob cais yn cael ei asesu a dyrennir y lleoedd i’r rhai hynny sy’n cwrdd orau â’r meini prawf. Nod yr Urdd yw dyrannu 300 o lefydd ledled yr 18 cwrs sydd ar gael.
Bydd y panel yn rhoi gwybod i rieni/ysgolion beth yw’r canlyniad erbyn y 8 o Fai.