Cefnogwch yr Urdd drwy brynu het goch, gwyn a gwyrdd.
O ganlyniad i sefyllfa Covid-19, mae’r Urdd yn wynebu’r cyfnod mwyaf heriol yn ein hanes.
Yn ystod y misoedd diwethaf, o ganlyniad i Covid-19:
Mae’r mudiad wedi colli 49% o’i gweithlu
Mae gwersylloedd yr Urdd wedi gorfod cau ac yn parhau i fod ar gau i breswylwyr
A bu'n rhaid gohirio gweithgareddau yn y gymuned ledled Cymru, gweithgareddau celfyddydol, chwaraeon a'r Eisteddfod.
Mae’r rhagolwg ariannol am y ddwy flynedd nesaf yn dangos gostyngiad incwm sylweddol. Felly, mae ymgyrch 'Het i Helpu' yn annog pobl ledled Cymru a thu hwnt i brynu Het i Helpu, i godi arian a rhannu ewyllys da tuag at y mudiad yn y cyfnod anodd hwn.
Os gallwch chi, ystyriwch brynu Het i Helpu. I chi'ch hun, i anwyliaid, neu fel anrhegion Nadolig - rydyn ni'n ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.
#HetIHelpu @urddgobaithcymru