- Beth yw #FelMerch -
Mae #FelMerch yn brosiect newydd gan Adran Chwaraeon yr Urdd, wedi'i chefnogi gan Chwaraeon Cymru, sydd wedi’i sefydlu yn arbennig er mwyn ysbrydoli, cefnogi ac ymbweru merched ifanc i gadw’n actif a chwalu’r rhwystrau sy’n atal merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.
Beth mae'r ymchwil yn dweud...
Yn ôl ymchwil gan Always nid yw mwy na hanner (55%) o ferched yn eu harddegau yn cadw’n heini, gyda thri chwarter ohonynt (75%) yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth i’w cadw mewn chwaraeon.
Mae ymchwil ddiweddar gan Chwaraeon Cymru hefyd yn dangos fod y pandemig wedi arwain at fwy o fenywod yn adrodd eu bod yn gwneud llai o chwaraeon, yn ogystal â theimlo’n euog am beidio â chadw’n heini, ac yn poeni am adael y tŷ.
Sut mae #FelMerch am chwalu'r rhwystrau...
1. Sefydlu gweithgareddau wythnosol cynhwysol
2. Sefydlu fforymau rhanbarthol a chenedlaethol
3. Penodi Llysgenhadon er mwyn ysbrydoli eraill, gan gynnwys Llysgenhadon cenedlaethol fel maswr tîm merched Cymru a Bryste, Elinor Snowsill
4. Darparu rhaglenni arweinyddiaeth.
5. Sefydlu hybiau cymunedol yn ystod gwyliau.
6. Cynhadledd genedlaethol er mwyn rhannu llwyddiant a syniadau.