Polisi gwirio staff a gwirfoddolwyr

 

Mae’n ofynnol i’r Urdd sicrhau bod trefniadau mewn lle ar gyfer amddiffyn plant a phobl ifanc.  Mae’n ofynnol sicrhau ein bod yn cyflogi staff sy’n addas i weithio gyda nhw, ac yn yr un modd bod ein rhwydwaith o wirfoddolwyr ar draws Cymru hefyd yn unigolion addas i ymgymryd â’u swyddogaethau.

Fel rhan o broses recriwtio - boed hynny fel staff cyflogedig neu fel gwirfoddolwr - byddwn yn asesu natur y cyfrifoldebau - ac yn trefnu gwiriad drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd GDG ble’n briodol.

Cedwir bas data canolog gan yr Urdd o enw/cyfeirnod/lefel gwiriad/dyddiad/swyddogaeth mewn man diogel (gweler Polisi Trin Gwybodaeth Tystysgrif GDG).

Mae’r Urdd yn cydweithio yn agos gydag Uned Cofnodion Troseddol WCVA ac rydym wedi cytundebu gyda nhw fel defnyddwyr gwasanaeth ‘e-Bulk’ (gwiriadau ar lein).

Bydd yr Urdd yn talu costau gwiriadau staff.  Mae gwiriadau gwirfoddolwyr yn ddigost tra mae’r unigolyn yn ymgymryd â’r swyddogaeth yn ddi-dâl.

Gwirio Staff – Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae Urdd Gobaith Cymru yn sicrhau bod staff llawn, rhan amser a staff dan hyfforddiant, ac sydd mewn swyddi perthnasol, yn cael eu gwirio drwy drefn y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Ar apwyntiad, bydd trefniadau yn cael eu rhoi mewn lle i wirio staff ar lefel sy’n berthnasol i gyfrifoldebau’r swydd.  Y nod yw bod y broses gwirio wedi ei gwblhau cyn i’r unigolyn gychwyn yn y swydd.

Polisi'r Urdd yw ail wirio staff perthnasol bob 5 mlynedd, oni bai bod rheswm penodol i’w ail gyflwyno yn gynt e.e. newidiadau mewn cyfrifoldebau swydd sy’n gwahodd lefel uwch o wiriad.  Mae gwiriadau gwirfoddolwyr yn ddigost tra mae’r unigolyn yn ymgymryd â’r swyddogaeth yn ddi-dâl.

Gwirfoddolwyr  - Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae nifer o wirfoddolwyr yr Urdd yn cyflawni rôl ble nad oes angen gwiriad drwy’r drefn Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  Fodd bynnag mae canran sylweddol yn cyflawni rôl sy’n dod a nhw i gyswllt rheolaidd gyda phlant a phobl ifanc, sy’n golygu bod angen i’r Urdd sicrhau eu bod yn addas i wneud hynny. Bydd lefel y gwiriad yn ddibynnol ar natur eu rôl, ac os ydynt a gofal plant a phobl ifanc heb oruchwyliaeth.

Byddwn yn trefnu i wirio gwirfoddolwyr mewn swyddogaethau perthnasol pan fyddent yn cychwyn ar eu gwaith gwirfoddol i’r Urdd.

Polisi’r Urdd yw ail wirio gwirfoddolwyr bob 5 mlynedd, oni bai bod rheswm penodol i’w ail gyflwyno yn gynt e.e. newidiadau mewn cyfrifoldebau swyddogaeth sy’n gwahodd lefel uwch o wiriad.

Bydd yr Urdd yn cydweithio yn agos gydag arweinyddion canghennau/adrannau/aelwydydd i sicrhau bod bas data gwirfoddolwyr yn gyfredol a gyda’r nod o sicrhau bod yr holl wirfoddolwyr perthnasol wedi eu gwirio drwy’r GDG