Mae Aled Siôn Davies MBE (ganwyd 24 Mai 1991) yn athletwr Paralympaidd o Gymru sy'n cystadlu'n bennaf mewn digwyddiadau taflu categori F42. Yn 2012 daeth yn ddeiliad record y byd o'r ergyd F42 ac yng Ngemau Paralympaidd yr Haf 2012 cipiodd y fedal efydd yn yr ergyd ac aur yn y disgen. Yn 2013 cipiodd Davies aur ym Mhencampwriaethau'r Byd yn yr ergyd a'r ddisgen yn Lyon. Dilynodd hyn ei fedal arian yn y ddisgen F42-44 o Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow lle bu'n cynrychioli Cymru.