Cyhoeddiad pwysig
Mae gwaith yr Urdd fel nifer o elusennau a sefydliadau eraill wedi gorfod addasu yn sylweddol o ganlyniad i’r pandemig, a penderfynwyd cyhoeddi fersiynau digidol o gylchgronau’r Urdd yn hytrach na phrint, a hynny yn rhad ac am ddim. Mawr obeithiwn fod y cylchgronau wedi bod o fudd i chi yn ystod y cyfnod clo.
Yn anffodus, nid oes modd i’r Urdd barhau i gyhoeddi tri chylchgrawn o fis Medi 2021 ymlaen, a bu’n rhaid gwneud y penderfyniad i ddirwyn cylchgrawn Bore da i ben. Felly rhifyn mis Mehefin oedd ein rhifyn olaf o Bore da.
Roedd hyn yn benderfyniad anodd i ni yma yn yr Urdd, ac rydym yn ymwybodol y bydd yn siom i’n tanysgrifwyr ffyddlon. Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o barhau i gyhoeddi cylchgrawn o safon i ddarllenwyr oed cynradd (Cip) a dysgwyr Cymraeg oed uwchradd (IAW) er mwyn cadw’r arlwy yn deg ar draws yr ystod o oedrannau.
Byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau fod cylchgrawn Cip yn addas i ystod mor eang â phosib o ddarllenwyr oed cynradd. Mi fydd posau a chartwnau Seren a Sbarc a chylchgrawn Mellten yn addas i ddysgwyr, a byddwn yn cynhyrchu fersiynau sain a fideos o straeon Cip, hefyd. Cyhoeddir y rhifyn nesaf ym mis Medi 2021.
Felly rydym yn mawr obeithio y gwnewch chi drosglwyddo eich tanysgrifiad i gylchgrawn Cip drwy glicio isod, a pharhau ar y daith hon gyda ni. Hoffwn hefyd eich atgoffa bod ôl-rifynnau o gylchgrawn Bore Da ar gael ar ein gwefan yn ogystal.
Tanysgrifio i Cip