Cystadlaethau, posau, gwobrau, cartŵns, straeon, jôcs, sêr, llythyron, erthyglau... a mwy!

Helo! Pwy wyt ti?!
Llenwa'r holiadur yma am gyfle i fod yn seren yng nghylchgrawn Cip!

Os wyt ti'n ffan o Cip fe fyddi di'n nabod Seren a Sbarc! Dyma gasgliad o bosau i dy gadw'n brysur. Mwynha!


Cafodd y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i blant ei gyhoeddi yn 1892.
- Enw’r cylchgrawn oedd ‘Cymru’r Plant’, ac O.M Edwards oedd yn ei ysgrifennu.
- Erbyn 1922, mab O.M.Edwards sef Syr Ifan ab Owen Edwards oedd yn ysgrifennu ‘Cymru’r Plant’.
- Yn 1922, ysgrifennodd Syr Ifan lythyr yn ‘Cymru’r Plant’, yn gwahodd holl blant Cymru i ymuno gyda mudiad newydd o'r enw Urdd Gobaith Cymru Fach... a dyna ddechrau’r Urdd.
- Yn 1987, penderfynwyd newid teitl ‘Cymru’r Plant,’ a theitl newydd cylchgrawn yr Urdd oedd Cip.