Adrodd ar bryder Diolgelu
Yn yr Urdd, ein cenhadaeth diogelu yw darparu amgylchedd diogel, cadarnhaol a phleserus i bawb sy’n ymwneud â’n gweithgareddau.
Mae gennym dîm o Bersonau Diogelu Dynodedig i roi cyngor a chefnogaeth, gan sicrhau bod mesurau diogelu cadarn yn eu lle ar draws pob agwedd o ddarpariaeth yr Urdd.
Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylech gysylltu â’r heddlu ar 999.
Cyflwyno MY VOICE
MY VOICE yw’r drefn ar gyfer adrodd yn hawdd am bryderon diogelu – a all fod yn ymwneud â rhywbeth sydd wedi digwydd neu a allai ddigwydd neu rywbeth a allai niweidio rhywun.
Mae MY VOICE yn ffurflen ar-lein syml y gellir ei chyflwyno gan rieni, gofalwyr, neu aelodau’r Urdd. Gellir cyflwyno pryderon gan ddefnyddio'ch enw neu'n ddienw.
Gellir cyrchu'r ffurflen drwy’r ddolen yma: LINK YMA
Sut mae'n gweithio?
- Gall cyfranogwyr, gofalwyr, a/neu rieni agor y ffurflen ar-lein a dechrau cyflwyno eu pryder drwy ateb ychydig o gwestiynau syml – LINK i’r ffurflenni
- Unwaith y bydd pryder wedi'i gyflwyno, bydd yn mynd yn syth at ein tîm diogelu a fydd yn gweithredu ar y pryder.
Sylwch, os cyflwynwch eich pryder yn ddienw, ni fydd ein tîm diogelu yn gallu ymateb yn llawn i'ch pryder.
Cofiwch
- Os yn bosibl wrth rannu pryder, byddai'n well gennym bob amser pe baech yn siarad yn uniongyrchol ag aelod o staff (manylion cyswllt isod).
- Os ydych yn defnyddio MYVOICE hoffem i chi gynnwys eich enw wrth roi gwybod am bryder (er nad oes yn rhaid i chi wneud hynny).
- Os nad ydych yn dymuno rhannu eich manylion, ni allwn roi adborth i chi o’r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'ch pryder, pan allai fod wedi bod yn briodol i ni wneud hynny.
- NID hwn yw’r lle i roi gwybod am bryder am aelod o staff. Rhaid adrodd yn uniongyrchol ar y rhain i'r Prif Weithredwr: diogelu@urdd.org
- NID yw hwn yn fforwm i gyflwyno cwynion, defnyddiwch y prosesau presennol i rannu'r rhain gyda ni.
Ni fyddwn yn goddef unrhyw gamddefnydd o’r system hon. Os bydd pryderon yn cael eu hadrodd sy’n fwriadol ffug neu faleisus, byddwn yn eu cyfeirio at yr Heddlu gan y gallai’r ymddygiad hwn gael ei ystyried yn drosedd.