CYRSIAU PRESWYL GLAN-LLYN ISA’
Iechyd a Lles – PROFIADAU PRESWYL YN YR AWYR AGORED
Yn ystod tymor ysgol 22/23, gyda cefnogaeth gan Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, fe wnaeth Gwasanaeth Awyr Agored yr Urdd arwain ar 6 gwrs Preswyl ar draws pob Sir i bobl ifanc yng Nglan-llyn Isa’ er mwyn hybu Iechyd Meddwl yn yr Awyr Agored. Yn dilyn llwyddiant y cyrsiau yma, y bwriad yw cynnig mwy o ddyddiadau yn ystod Gaeaf a Gwanwyn 2023/24.
Mae’r cyrsiau i gyd wedi selio o gwmpas y thema Iechyd a Lles, gan ddefnyddio elfennau 5 Cam at Lesiant Meddwl y Bwrdd Iechyd gan blethu buddion yr awyr agored i mewn i’n cyrsiau.
Rhaglen
Bydd y bobl ifanc yn cyrraedd ar ôl ysgol, lle bydd amser i gael cyflwyniad i’r tridiau, derbyn mewnbwn ar y rhaglen, cael pryd o fwyd a gweithgaredd cyn ymlacio yn y llety newydd.
Bydd yr ail ddiwrnod yn ffocysu ar weithgareddau yn yr awyr agored. Bydd ein swyddogion yn trafod y weithgaredd mwyaf addas efo arweinyddion cyn y cwrs, gan ystyried oedrannau, gallu ac amser y flwyddyn. Mae’r gweithgareddau yn amrywio o deithiau cerdded yn y goedwig, teithiau mynydd, dringo, gweithgareddau dwr neu gwylltgrefft, gyda lefel yr “antur” wedi ei deilwra i bob grŵp yn benodol.
Byddem yn treulio’r ail noson yn adolygu’r dydd a profiadau hyd yma, gyda ffocws ychwanegol ar fuddiannau’r awyr agored a’r byd naturiol ar ein iechyd meddwl. Mae gweithgareddau tebyg i Yoga, Meddwlgarwch, Pilates hefyd yn boblogaidd iawn yn ystod y cyfnod yma, cyn cloi’r noson gyda Pizza wedi goginio efo tan!
Bydd y weithgaredd olaf yn digwydd ar ôl brecwast ar y diwrnod olaf, cyn adolygu, rhannu profiadau, a cloi’r cwrs a ffarwelio ar ôl cinio, gan ddychwelyd i’r ysgol erbyn y gloch olaf.
Nol