Gweithgareddau Adeiladu Tîm
Yn Glan-llyn, mae gennym amrywiaeth eang o weithgareddau sy'n addas i bob lefel sgiliau ac sy'n annog cydweithio a datblygu sgiliau tîm. O weithgareddau awyr agored megis Cwrs Rhaffau a cherdded Afon, i heriau sy'n datblygu'r gallu i ddatrys problemau a chydweithio - mae rhywbeth i bawb yma.
Bwydlen Blasus
Ar ôl diwrnod prysur yn meithrin perthnasau a sgiliau newydd, mae'n bwysig ymlacio gyda bwydlen flasus wedi'i darparu'n llwyr. Yma yn Glan-llyn, rydym yn cynnig gwasanaeth arlwyo llawn gyda bwydydd lleol ffres i sicrhau bod eich tîm yn cael y cydbwysedd perffaith rhwng gweithgareddau a bwyta'n dda. Gallwn addasu ein bwydlenni i weddu i bob un o’ch anghenion dietegol, gan sicrhau bod pawb yn gallu ymlacio a mwynhau pryd o fwyd.
Popeth mewn un lle
Yn Glan-llyn, rydym yn cynnig ateb di-drafferth ar gyfer diwrnod adeiladu tîm. Gyda llety cyfforddus, cyfleusterau cyfarfod ac amser i ymlacio, rydym yn gallu darparu popeth y mae eich diwrnod neu arhosiad corfforaethol ei angen mewn un lle. Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu canolbwyntio ar gryfhau'ch tîm, tra bo ni’n gofalu am y manylion.
Os ydych chi'n chwilio am leoliad sy'n darparu gweithgareddau adeiladu tîm, bwydlen arlwyo blasus ac adnoddau cyfarfod gwych, edrychwch dim pellach na Glan-llyn. Bydd eich tîm yn gadael wedi’i adnewyddu, yn llawn brwdfrydedd ac yn barod i wynebu’r heriau sydd i ddod!
Corfforaethol







