Cyrsiau 6ed Dosbarth

CWRS SAFON U/UG CYMRAEG

GWERSYLL YR URDD, GLAN-LLYN

CWRS IAITH GYNTAF TACHWEDD 11fed -13eg 2024

CWRS AIL-IAITH TACHWEDD 25ain – 27ain 2024

£159

Pris i gynnwys llety / bwyd / gweithgareddau

Trefnir bysus o wahanol rannau o Gymru yn Ôl y galw  gyda’r pris yn amrywio o £25-£35

Trefnir y cwrs ar y cyd â Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor a bydd y ddarpariaeth yn adlewyrchu y maes llafur, gyda chyfraniadau gan ddarlithwyr, awduron, actorion, athrawon a beirdd. Rhoddir  cyfle hefyd i’r myfyrwyr fynychu ambell i weithgaredd awyr agored a chymdeithasol yn ystod y tridiau.

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch âcwrschweched@urdd.org

Dyddiad cau ar gyfer archebu lle: Hydref 15fed, 2024

Nol