Gwyliau Teulu 2025
Mae gwyliau teuluol ar lannau Llyn Tegid yn gyfle perffaith i fwynhau'r awyr iach ac anturiaethau bythgofiadwy. Gyda'r llyn tawel yn adlewyrchu'r mynyddoedd a'r coedwig o'i gwmpas, a'r amrywiaeth o weithgareddau awyr agored ar gael, o ganwio i deithiau cerdded, mae rhywbeth i bawb yma.
Beth am fentro fewn i'r llyn, neu efallai archwilio'r llwybrau natur prydferth sy'n ymdroelli o amgylch y dŵr?
Mae'n amser i fynd allan a chreu atgofion annwyl gyda'r teulu.
Archebwch eich antur heddiw!
Beth yw Gwyliau Teulu Glan-llyn?
Rydym yn cynnig dihangfa berffaith i’r teulu cyfan. Dewch i fwynhau dyddiau llawn gweithgareddau ac i edmygu’r olygfa. Anghofiwch am orfod paratoi unrhyw brydau bwyd ac ymlaciwch yn eich ystafelloedd en-suite.
Dyddiadau 2025
Pasg |
14-16 o Ebrill |
Haf |
25-27 Gorffennaf |
Llety, Bwyd a Cyfleusterau
Mae pob ystafell wely yn "en suite". Mae lolfa ar gyfer ymlacio a gwylio teledu gyda'r nos ymhob bloc.
Mi fydd 4 pryd ar gael gan y gwersyll, brecwast, cinio, te a swper. Hefyd, mae pob bloc llety efo cegin syml at ddefnydd pob teulu, gyda chyfleusterau syml fel tegell, oergell, microdon a sinc.
Ardal Leol
Saif y Gwersyll ar lan Llyn Tegid ger y Bala rhyw filltir o bentref Llanuwchllyn yng nghysgod yr Aran ac oddi fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ei leoliad yn ddelfrydol ar gyfer pob math o wyliau a chyrsiau antur.
Bydd dyddiadau gwyliau teulu 2025 yn cael eu rhyddhau ym mis Ionawr. Os hoffech dderbyn rhybudd ymlaen llaw o'r dyddiad rhyddhau, anfonwch e-bost atom a byddwch yn cael eich rhoi ar ein rhestr ymholiadau. Peidiwch â cholli allan! glan-llyn@urdd.org




