![](/files/4214/1112/4790/glanlyn-bunks.jpg)
Llety
Mae gan y gwersyll 55 o ystafelloedd gwely “en-suite” sydd yn cysgu hyd at ddau, pedwar, chwech neu wyth. Gallwn dderbyn hyd at 250 o wersyllwyr ar y tro, gydag oddeutu 40 o’r gwlâu hyn wedi eu penodi ar gyfer arweinyddion. Rhannir y rhain ar draws 5 bloc llety, a all ei rhannu i 7 ardal llety unigol.
![Parlwr cyfforddus yn yr hen Blas](/files/3215/3676/4920/glan_llyn_teuluoedd-3207.jpg)
Ardaloedd Cymunedol
Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy gydol y dydd, gyda lolfa bwrpasol ar gyfer bob bloc llety er mwyn ymlacio gyda’r nos. Mae cysylltiad i’r wi-fi ar gael ar draws y safle.
![Gallwn weini eich bwyd yn y caban bwyta neu eich ystafell gyfarfod](/files/8914/1112/4789/glanlyn-canteen.jpg)
Bwyd
Darperir brecwast, cinio, te a swper gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gall y gwersyll ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.
![](/files/2514/1529/0967/stafell_gyfarfod.jpg)
Ystafelloedd Cyfarfod
Mae gan y gwersyll nifer o ystafelloedd cyfarfod sydd yn amrywio mewn maint a phwrpas defnydd. Gall ein deg ystafell gyfarfod dderbyn rhwng 10 a 250 o ymwelwyr, sy’n golygu y gallwn gynnal cyfarfodydd bach neu gynadleddau o bob maint. Mae’r cyfleusterau sydd ar gael yn cynnwys taflunydd, teledu gyda chysylltiadau i gyfrifiadur a chynhadledd fidio a ffôn.