Chwilio am y man cyfarfod perffaith yng nghanol Caerdydd? Peidiwch ag edrych ymhellach na'n hystafelloedd gyfarfod o'r radd flaenaf yng Ngwersyll Caerdydd. P'un a ydych yn cynnal cynhadledd fusnes, gweithlu tîm, neu ddigwyddiad corfforaethol, mae ein hystafell gyfarfod bwrpasol yn cynnig amgylchedd proffesiynol a chyfoes sy'n addas ar gyfer eich holl anghenion. Gydag offer modern, dodrefn cyfforddus, a mynediad cyflym i'r rhyngrwyd, rydym yn sicrhau profiad di-dor a chynhyrchiol i'ch mynychwr. Bydd ein staff cyfeillgar wrth law i'ch cynorthwyo gydag unrhyw ofynion gan sicrhau bod eich cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth o'r dechrau i'r diwedd. Wedi'i lleoli ym Mae Caerdydd, mae ein hystafelloedd cyfarfod yn lleoliad cyfleus a chanolog ar gyfer eich busnes.
Ystafelloedd Cyfarfod
Mae gan y Gwersyll dewis o ystafelloedd cyfarfod.
Mae'r ystafell gyfarfod yn dal hyd at 14 person.
Mae gennym 2 ystafelll dosbarth sy'n dal o ddeutu 20 unigolion. Mae modd agor y canolfur er mwyn creu un ystafell fawr sydd yn dal 40.
Mae pob un o'n hystafelloedd yn Teams ready, gyda camerau, meics nenfwd, sgrinau rhyngweithiol.
Gyda thrafnidiaeth gyhoeddus i ganol y ddinas a chysylltiad cyfleus i’r M4, mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn lleoliad delfrydol ac unigryw ar gyfer cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau.
Mae cysylltiad diwifr a’r wê a system awyru ar gael ym mhob un o’n hystafelloedd.
Neuadd
Mae’r neuadd yn ystafell amlbwrpas sy’n addas ar gyfer pob math o ddigwyddiadau megis perfformiadau theatr a dawns, cynadleddau busnes, seminarau hyfforddi, neu ymarferion cerddorfeydd a chorawl. Ar ffurf theatr gellir eistedd hyd at 153 o bobl. Mae goleuadau theatr, system sain a thaflunydd digidol ar gael yno.
Bwyd
Mae gan y Gwersyll neuadd fwyd sy’n gweini brecwast, cinio a swper.
Gall y Gwersyll ddarparu ar gyfer unrhyw anghenion bwyd, dietegol neu grefyddol. Gellir trafod yr holl ofynion yma gyda ni.
Os yn mynychu’r Gwersyll ar gyfer cyfarfod gallwn ddarparu lluniaeth ar gyfer digwyddiad o unrhyw faint. Mae ein bwydlen yn cynnig dewis eang o luniaeth, boed hynny’n baned a bisged neu pryd o fwyd poeth.
Nol