Cwrs unigryw yn y brifddinas i gerddorion ifanc
Wedi'i leoli ym Mae Caerdydd, mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn le arbennig i ddod i weld y ddinas fel grŵp o ffrindiau, neu i gwrdd â phobl newydd.
Mae ein Cwrs Creu yn gwrs unigryw sydd wedi'i deilwra'n arbennig i blant sy'n diddori mewn creu cerddoriaeth.
Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai ar gyfansoddi a pherfformio,sy'n cael ei arwain gan tiwtoriad yn y maes. Bydd hefyd cyfle i fwynhau gweithgareddau yn y gwersyll a chael blas ar rhai o atyniadau'r Brifddinas.
Mae’r pris yn cynnwys gweithdai, gweithgareddau, a tri pryd bwyd y dydd.
Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer disgyblion blynyddoedd 4-6.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
14-16/04/25
Pa mor hir mae'n para?
3 diwrnod, 2 noson
Pris
£180 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Cynllun talu rhandaliadau ar gael.
Nol