Gwersyll Caerdydd
Mae’r Gwersyll yn cynnig cyfle i flasu danteithion prifddinas Cymru wrth aros yn adeilad unigryw Canolfan Mileniwm Cymru, un o brif ganolfannau celfyddydol y byd. Mae lle i 153 o bobl aros dros nos yn y Ganolfan mewn ystafelloedd en-suite. Mae hefyd neuadd/theatr yn y Gwersyll, lolfeydd, ffreutur ac ystafelloedd dosbarth. Bydd cyfle i fynychu cyrsiau arbenigol yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd, ond byddwn hefyd yn trefnu ymweliadau â phob math o lefydd yng Nghaerdydd a’r ardal.
Caerdydd a'r Bae
Mae Caerdydd yn ddinas gyfoes sy’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Dinas sy’n datblygu’n barhaol gyda Bae Caerdydd, ble lleolir y Gwersyll, yn un o ddatblygiadau glan y môr mwyaf cyffrous Ewrop. Ar garreg ein drws mae gwledd o atyniadau o’r radd flaenaf sy’n cyfuno hanes a diwylliant, y traddodiadol a’r cyfoes - theatrau, amgueddfeydd, orielau, lleoliadau celfyddydol a chanolfannau chwaraeon. Mae’r Bae hefyd yn lleoliad delfrydol ar gyfer ffilm a theledu gyda chartref newydd stiwdio BBC ger y Gwersyll.
P’un ai’ch bod am ymweld â Chaerdydd ar gwrs addysgiadol, ar wyliau neu ar fusnes, fe fydd y Ddinas a’r Bae yn cynnig profiadau bythgofiadwy.