Gwyliau i bobl ifanc sy'n chwilio am antur yn un o leoliadau gwefreiddiol gogledd Cymru
Wedi ei lleoli ar lannau Llyn Tegid, mae gwersyll Glan-llyn yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored o ansawdd uchel.
Anturio yn y Gymraeg ar ei orau! Os ydi dringo creigiau uchel yn y bore, SUP’s yn y prynhawn a cherdded i gopa un o fynyddoedd Eryri i wylio’r haul yn machlud yn swnio fel hwyl, dyma'r gwyliau i chi.
Y bore wedyn fe allwch fod yn profi gweithgareddau fel cerdded afon, sialensiau'r cwrs rhaffau cyn croesi’r llyn i gysgu dan y sêr ar y bifi bythgofiadwy.
Gyda’r niferoedd wedi eu cyfyngu i 36, sicrhewch eich lle mor fuan â phosibl. Bydd yr anturiaethau hyn i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r pris yn cynnwys gwyliau llawn gweithgareddau, pedwar pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite. Gellir trefnu cludiant am bris ychwanegol.
Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer pobl ifanc 14 - 16 oed. Cymraeg yw iaith y cwrs.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
Dydd Llun 22 Gorffennaf nes Dydd Gwener 26 Gorffennaf 2024
Neu
Dydd Mawrth 20 Awst nes Dydd Gwener 23 Awst 2024
Pa mor hir mae'n para?
5 diwrnod, 4 noson
Neu
4 diwrnod, 3 nososn
Pris
22-26 Gorffennaf: £310 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
20-23 Awst: £280 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Bws
Gellir darparu bws am gost ychwanegol
Llety
Bydd criw Anturdd i’r Eithaf yn aros yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn.
Bwyd
Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol.