Beth yw gwersylloedd haf yr Urdd?

Ers y 1930au mae miloedd o blant a phobl ifanc Cymru wedi cael budd o fynychu Gwersylloedd Haf yr Urdd.

Dyma gyfle i’ch plentyn fwynhau gwyliau annibynnol i ffwrdd o adref dan ofal staff profiadol yr Urdd (24 awr y dydd).

Dewiswch o 20 gwersyll sydd yn cael eu cynnal drwy gydol gwyliau’r haf ar gyfer plant o 8 – 18 oed ar safleoedd pedwar o Wersylloedd yr Urdd.

Lleoliadau a gweithgareddau’r gwersylloedd haf

Mae’r gweithgareddau yn amrywio ym mhob gwersyll. O wersylloedd yn llawn antur i wersylloedd creu, perfformio, natur a lles – mae rhywbeth i bawb.

Pentre Ifan

Mae gwersyll Pentre Ifan yn canolbwyntio ar natur, yr amgylchedd a lles plant a phobl ifanc. Yn cynnig profiadau hudolus rhwng môr a mynydd yng ngogledd Sir Benfro. Mae gweithgareddau gwersylloedd haf Pentre Ifan yn cynnwys yoga, meddylgarwch, serydda, SUP, dro i fynyddoedd y Preseli a llawer mwy.

Caerdydd

Wedi’i leoli ym Mae Caerdydd; dan do Canolfan Mileniwm Cymru, mae gwersylloedd haf Caerdydd yn cynnig profiad dinesig i’ch plentyn. Gyda cwrs creu a perfformio wedi’i deilwra yn arbennig ar gyfer plant sy’n diddori mewn creu, cyfansoddi a perfformio. Mae amserlen y gweithgareddau yn llawn o dripiau i atyniadau mwyaf Caerdydd, fel Stadiwm Principality, Castell Caerdydd a gweithgareddau hwyliog fel nofio a bowlio 10.

Glan-llyn

Ar lannau Llyn Tegid ym Mharc Cenedlaethol Eryri, mae Glan-llyn yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored o’r safon uchaf. Mae gwersylloedd haf Glan-llyn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau dŵr a thir, gan gynnwys canŵio, dringo a rhaffau uchel, a gweithgareddau dan do fel saethyddiaeth a nofio.

Llangrannog

Yn edrych dros fae godidog Ceredigion, mae Gwersyll Llangrannog wedi’i leoli ar lwybr arfordir Cymru. Yn arbenigo mewn gweithgareddau antur, mae cyfle i wibio lawr llethr sgïo, rasio ceirt modur, mentro ar y cwrs rhaffau neu fwynhau taith ar gefn y merlod. Mae digon i’w wneud yma dan do hefyd, o’r pwll nofio i’r wal ddringo.

Hyd a prisiau’r gwersylloedd haf

Dewiswch o wersyll 3 diwrnod (2 noson) neu 5 diwrnod (4 noson) sydd ar gael yn ein pedwar lleoliad.

Mae’r prisiau’n amrywio yn ddibynnol ar hyd y cwrs, y lleoliad a’r rhaglen o weithgareddau. Prisiau i’w gweld ar dudalen y cwrs penodol.

Byddwn yn gofyn am flaendal o £50 wrth archebu. Cynllun rhandaliadau ar gael.

Mae popeth yn rhan o’r pris – llety, bwyd, gweithgareddau a gofal 24 awr y dydd.

Gellir trefnu cludiant bws am bris ychwanegol - mi fydd manylion yn dilyn ar ôl archebu.

Iaith y gwersyll

Y Gymraeg yw iaith gwersylloedd haf yr Urdd.

Mae 5 gwersyll penodol i ddysgwyr. Yr ethos yw i ddysgu trwy weithgareddau a phrofiadau sy’n cyfoethogi dysgwyr mewn amgylchedd Cymreig lle mae’r Gymraeg yn iaith fyw.

Os yw eich plentyn yn dysgu Cymraeg rydym yn argymell eich bod yn ei cofrestru ar gyfer cwrs i ddysgwyr.

Gofal a diogelwch

Mae’r holl weithgareddau yn cael eu arwain a’u cynnal dan oruchwyliaeth staff profiadol a chymwys yr Urdd.

Bydd eich plentyn yn derbyn gofal 24 awr y dydd. Rydym yn sicrhau bod y plant bob amser yn gwybod ble i droi mewn argyfwng, yn ystod y dydd a nos. Mae gwyliwr nos ar ddyletswydd trwy gydol y nos. Yn ogystal, mae camerâu diogelwch yn ein safleoedd. Mae gan ystafelloedd a choridorau system gardiau allwedd electronig unigryw i sicrhau diogelwch. Os nad oes cerdyn i gael fewn i'r ystafelloedd mae yna system 'Maglock' ar bob bloc llety sydd gyda chod unigryw. Fydd y cod yma yn cael ei rhannu gyda phlant a phobl ifanc fydd yn aros yn y bloc yna yn unig. Mae holl staff gwersylloedd yr Urdd wedi cael ymchwiliad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Mae rhieni yn adrodd nôl o flwyddyn i flwyddyn bod ein “staff yn gefnogol, yn gyfeillgar ac yn broffesiynol” – mae eich plentyn mewn dwylo saff.

Cronfa Cyfle i Bawb

Gall rhieni, warchodwr neu athrawon wneud cais i’r gronfa i dalu am wyliau yn un o wersylloedd haf yr Urdd i blentyn neu berson ifanc sy’n gymwys.

Manylion yma