Ydych chi’n teimlo’n reddfol am natur? Oes gyda chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa o fewn y sector cynaliadwyedd a Chadwraeth?

Dyma gyfle euraidd i chi ennill profiad mewn gwahanol agweddau ar y sector gan gynnwys sesiynau ymarferol, sgyrsiau gan gyflogwyr a rhai sy'n gweithio o fewn sefydliadau natur a chadwraeth yn ogystal â gweithgareddau hwyl megis arfordiro. Cynigir y cwrs hwn mewn partneriaeth â WWF Cymru.

Mae'r cwrs preswyl 3 diwrnod hwn yn cynnwys:

• Teithiau tywys a gweithgareddau mewn amrywiaeth o gynefinoedd gan gynnwys ucheldir (bryniau Preseli) Arfordir (Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) a Choetir (Gwarchodfa Natur Coed Tŷ Canol).

• Sesiynau a gweithgareddau sy'n eich galluogi i gwrdd â derbyn cyngor gan gyflogwyr yn y sector amgylcheddol ar lwybrau posibl i yrfa amgylcheddol.

• Sesiynau cadwraeth ymarferol gan gynnwys cynnal arolygon natur a bywyd gwyllt, dilyn olrhain rhywogaethau penodol fel mamaliaid bach, hyrwyddo cynefinoedd adar, a nodi rhywogaethau o ddiddordeb.

• Sesiwn arfordiro yn Blue Lagoon Abereiddy Arfordir Penfro

• Amrywiol weithdai ar thema cynaliadwyedd a chadwraeth.

 

Ar gyfer

Pobl ifanc sydd yn 15-18 oed.

Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?

13 Awst 2024

Pa mor hir mae'n para?

2 noson

Pris

£25 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

 

Amserlen

Dydd Mawrth 13/8/24

12:30 Cyrraedd, Croeso a Chinio

1:30   Gweithdy Gwastraff gyda Cadw’ch Gymru’n Daclus

3:00   Egwyl

3:30   Sesiwn Cynefin Ucheldir ar Fryniau’r Preseli gyda sgwrs gan Swyddog Cynaliadwyedd Fferm Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

5:00   Sesiwn Gwylltgrefft

6:00   Swper

7:00   Sesiwn Pyllau trai, glanhau’r traeth ac arolwg natur ar Draeth Trefdraeth

8:00   Gemau Traeth

 

Dydd Mercher- 14/8/24

8:00    Brecwast

9:00   Gadael y Gwersyll a teithio i Dyddewi

10:00  Ymweld â Câr-y-Môr:Fferm Adnewyddol Gwymon a chregynpysgod cyntaf Cymru

12:30  Cinio Pecyn

1:30   Sesiwn Arfordiro yn Abereiddy

5:00   Sesiwn Gwylio Morloi ym Mhen Strwmbwl

6:00   Swper

7:30   Taith gerdded natur Biofflworoleuol ac Ystlumod

9:30   Sesiwn Serydda a Ser wib (os yn glir)

 

Dydd Iau- 15/8/24

 8:00    Brecwast

9:00    Sesiwn Cynefin Coetir yn Nghoedwig Pentre Ifan a Thy Canol yng nghwmni Parcmon                                           Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

11:30  Gweithdy WWF- Actifiaeth Creadigol

12:30  Cinio

1:30    Ymadael