Barod i ateb galwad y gwyllt?

Ymunwch â ni am antur fythgofiadwy yng Ngorllewin Cymru ar ein Gwersyll Gwyllt sydd wedi'i gynllunio i'ch ailgysylltu â natur a'ch grymuso i ffynnu yn yr awyr agored.

Beth i ddisgwyl

  • Ewch amdani yn yr awyr agored: Teithiau cerdded dan arweiniad trwy goetiroedd hynafol ac ar hyd bryniau mawreddog y Preselau, sesiwn anturio a gwylio bywyd gwyllt ar yr arfordir ,a sêrydda o dan flanced o sêr gyda’r nos.
  • Goroeswch y gwyllt!: Dysgwch sgiliau gwylltgrefft megis dechrau tan, creu lloches a fforio am bwyd a gwynebu sialensau llwythol.
  • Datblygwch sgiliau hunangynhaliol: Gweithdai tyfu bwyd a choginio a chrefftau gwledig.

Wedi gadael mi fydd gennych...

  • Mwy o hunanddibyniaeth a hyder: Meistrolwch sgiliau newydd a darganfod eich dyfeisgarwch mewnol.
  • Cysylltiad dyfnach â natur: Datblygu gwerthfawrogiad dwfn o harddwch a grym yr anialwch.
  • Atgofion bythgofiadwy: Rhannu straeon, chwerthin, heriau a thân gwersyll o dan awyr helaeth Cymru.

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer oedrannau 11-14, neu blynyddoedd ysgol 7-9.

Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?

27 Awst 2024

Pa mor hir mae'n para?

2 noson

Pris

£170 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

 

Amserlen Gwersyll Gwyllt

Dydd 1

12:30y.h Cyrraedd, Croeso a Chinio

1:30yh- Sesiwn Goroesi’r Gwyllt yn y Goedwig- Gwylltgrefft, fforio, cyfeiriannu a sialensiau

4:30yh- Te

5yh- Crefft Wledig- Naddu Pren

6yh- Swper

7yh- Taith Ystlumod a Natur Biofflworoleuol

 

Dydd 2

8yb- Brecwast

9:30- Sesiwn Padlfyrddio ar Lyn Llys-y-frân

12pm- Cinio Pecyn

12:30- Sesiwn Canŵio ar Lyn Llys-y-frân

2:30 Ymadael Llys-y-frân

3:00 Ymweld â Llaeth Preseli a chyfle i brynu gelato

4pm- Ymweld â chromlech Pentre’ Ifan

4:30- Dychwelyd i’r safle ac amser rhydd

5pm Sesiwn Pridd i’r Plât

6pm- Swper

7pm Sesiwn Cynefin Arfordir- Gemau Traeth a Gwylio Bywyd Gwyllt

8pm Chwedlau o amgylch y tân a serydda

 

Dydd 3

8yb- Brecwast

9y.b- Ymadael y Gwersyll

9:30yb- Taith Gerdded ar Fryniau’r Preseli- Goroesi’r Ucheldiroedd- Cyfeiriannu, gwylio bywyd gwyllt a sialensiau.

12:30 Dychwelyd i’r Gwersyll a Chinio

1:30- Ymadael