Barod i ateb galwad y gwyllt?
Ymunwch â ni am antur fythgofiadwy yng Ngorllewin Cymru ar ein Gwersyll Gwyllt sydd wedi'i gynllunio i'ch ailgysylltu â natur a'ch grymuso i ffynnu yn yr awyr agored.
Atebwch alwad y gwyllt a dysgwch sut i amddiffyn ein hamgylchedd i genedlaethau’r dyfodol. Datblygwch sgiliau newydd a gweithiwch gyda’ch gilydd i oroesi sialensiau gwyllt y gwersyll.
Beth i ddisgwyl
- Ewch amdani yn yr awyr agored: Teithiau cerdded dan arweiniad trwy goetiroedd hynafol ac ar hyd bryniau mawreddog y Preselau, sesiwn SUP a Canwio ar Lyn Llysyfran ,a sêrydda o dan flanced o sêr gyda’r nos.
- Goroeswch y gwyllt!: Dysgwch sgiliau gwylltgrefft megis dechrau tan, creu lloches a fforio am bwyd a gwynebu sialensau llwythol.
- Datblygwch sgiliau hunangynhaliol: Gweithdai tyfu bwyd a choginio a chrefftau gwledig.
Wedi gadael mi fydd gennych...
- Mwy o hunanddibyniaeth a hyder: Meistrolwch sgiliau newydd a darganfod eich dyfeisgarwch mewnol.
- Cysylltiad dyfnach â natur: Datblygu gwerthfawrogiad dwfn o harddwch a grym yr anialwch.
- Atgofion bythgofiadwy: Rhannu straeon, chwerthin, heriau a thân gwersyll o dan awyr helaeth Cymru.
Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer plant sy'n dysgu Cymraeg, oedrannau 8-12, neu blynyddoedd ysgol 4-6.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
Dydd Llun 28 Gorffennaf tan ddydd Gwener 1 Awst 2025.
Pa mor hir mae'n para?
4 noson
Pris
£290 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Cynllun talu rhandaliadau ar gael.
Gellir trefnu cludiant bws am bris ychwanegol - mi fydd manylion yn dilyn ar ôl archebu.
Llety
Ystafell wely “en-suite” sydd yn cysgu hyd at chwech neu wyth.
Cyfleusterau
Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy gydol y dydd, gyda lolfa bwrpasol er mwyn ymlacio gyda’r nos. Mae cysylltiad i’r wi-fi ar gael ar draws y safle.
Bwyd
Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.
Amserlen Enghreifftiol Gwersyll Galwad y Gwyllt
Dydd 1
12:30y.h Cyrraedd, Croeso a Chinio
13:30 Sesiwn Ymgyfarwyddo ac Adeiladu Tim
16:00- Egwyl a Te
17:00- Crefft Wledig- Naddu Pren a Sesiwn Pridd i'r Plat
6yh- Swper
7yh- Taith Ystlumod a Natur Biofflworoleuol
Dydd 2
8yb- Brecwast
9:30- Sesiwn Padlfyrddio ar Lyn Llys-y-frân
12pm- Cinio Pecyn
12:30- Sesiwn Canŵio ar Lyn Llys-y-frân
16:30 Ymadael Llys-y-frân
17:00 Ymweld â Llaeth Preseli a chyfle i brynu gelato
18:00 Dychwelyd i'r Gwersyll a Swper
7pm- Heriau Llwythol a Gemau Bwrdd
9pm- Gwely
Dydd 3
8yb- Brecwast
9y.b- Ymadael y Gwersyll
9:30yb- Taith Gerdded ar Fryniau’r Preseli- Goroesi’r Ucheldiroedd
12:30 Cinio Pecyn
1:00 Taith Gerdded ar Fryniau'r Preseli- Goroesi'r Ucheldiroedd
3pm Dychwelyd i'r Gwersyll a Egwyl
4pm- Gwylltgrefft
6pm- Swper
7pm- Chwedlau o amgylch y tân a serydda
9pm- Gwely
Dydd 4
8:00- Brecwast
9:00- Sesiwn Goroesi'r Gwyllt Cynefin Coedwig
12:30- Cinio
1:30- Sesiwn Cynefin Arfordir
3:30 Egwyl
16:30- Arddarwyr/ Ffasiwn Ffantastic
18:00 Swper
7pm Gemau traeth
9pm Gwely
Dydd 5
9:00 Her Galwad y Gwyllt
11:30- Actifiaeth Creadigol- Seremoni Gwobrwyo
12:00 Cinio
1pm Ymadael