Gwyliau 5 diwrnod yn y brifddinas
Wedi'i leoli ym Mae Caerdydd, mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn le arbennig i ddod i weld y ddinas fel grŵp o ffrindiau, neu i gwrdd â phobl newydd.
Dros gyfnod o pump diwrnod byddwch yn mwynhau gweithgareddau fel mynd ar y cwch cyflym o gwmpas y Bae, ymweld ag atyniadau fel Techniquest, a chwarae bowlio deg a noson yn y sinema. Dyma enghraifft o amserlen o un o gyrsiau preswyl Gwersyll Caerdydd i roi syniad i chi.
Mae’r pris yn cynnwys gweithgareddau, tri pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite.
Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer blynyddoedd ysgol 4-6 / plant 8 - 11 oed.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
Dydd Llun 29 Gorffennaf nes Dydd Gwener 2 Awst 2024
Pa mor hir mae'n para?
5 diwrnod, 4 noson
Pris
£235 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Llety
Mae amrywiaeth o ystafelloedd gwely ar gael. Mae gennym 3 ystafell sy’n cysgu dau, 1 yn cysgu tri, 3 ystafell i grwpiau o bedwar a 22 ystafell ar gyfer grwpiau o chwech. Mae ystafell ymolchi ymhob ystafell, a dyma unig ganolfan yr Urdd sydd â system clo ar gerdyn electronig ar gyfer pob ystafell!
Cyfleusterau
Mae digon o le i ymlacio yn y lolfa sydd â bwrdd pwl a pheiriannau bwyd a diod.
Bwyd
Rydym yn gweini brecwast, cinio a swper yn ein neuadd fwyta. Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer anghenion arbennig, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.