Gwyliau 3 diwrnod yn y brifddinas i orffen yr Haf

Wedi'i leoli ym Mae Caerdydd, mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn le arbennig i ddod i weld y ddinas fel grŵp o ffrindiau, neu i gwrdd â phobl newydd.

Dros gyfnod o dri diwrnod byddwch yn mwynhau gweithgareddau fel mynd ar y cwch cyflym o gwmpas y Bae, ymweld ag atyniadau fel Techniquest, a chwarae bowlio deg a noson yn y sinema. Dyma enghraifft o amserlen o un o gyrsiau preswyl Gwersyll Caerdydd i roi syniad i chi.

Mae’r pris yn cynnwys gweithgareddau, tri pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite. 

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer blynyddoedd ysgol 4-6 / plant 8 - 11 oed. Does dim rhaid gallu siarad Cymraeg i fynychu.

Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?

Dydd Mercher 28 Awst nes Dydd Gwener 30 Awst 2024

Pa mor hir mae'n para?

3 diwrnod, 2 noson

Pris

£170 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.