Beth i’w bacio

  • Sach gysgu
  • Dillad nos, bag ymolchi a thywel
  • Dillad sbâr gan gynnwys siwmper gynnes ac anorac neu got law
  • Dillad chwaraeon
  • Dillad nofio (bydd y gwersyll yn rhoi gwybod i chi o flaen llaw os oes angen)
  • Esgidiau addas ar gyfer cerdded
  • Bag dydd i gario pecyn bwyd

* Gwnewch yn siŵr bod enw eich plentyn ar bob dilledyn / eiddo.

Beth sydd ddim ei angen

Peidiwch â gadael i blant ddod ag eiddo personol drud fel ipods, ffonau symudol, consolau gemau, ac ati i'r gwersyll. Oherwydd rheolau Iechyd a Diogelwch, cyllell boced, chwistrellau aerosol (defnyddiwch diaroglydd rholio), peiriannau trydanol symudol e.e. sychwyr gwallt, sythwr gwallt, haearn smwddio.

Gellir gadael unrhyw eiddo gwerthfawr yn swyddfa’r gwersyll i'w cadw'n ddiogel e.e. camerâu, oriawr, arian ac ati a’u defnyddio yn ôl yr angen.

* Nodwch nad yw Gwersylloedd yr Urdd yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw eiddo personol

Ffôn

Rydym yn gofyn i chi beidio trefnu i’ch plentyn ffonio adref ar ddechrau’r gwersyll. Oni bai y clywch oddi wrthym fe fyddwch yn gwybod bod eich plentyn yn iach ac yn mwynhau. Gallwn eich sicrhau os y bydd angen cysylltu â’r rhieni (e.e. salwch neu hiraeth drwg) fe fyddwn yn gwneud hynny’n syth.

Os byddwch am anfon neges at eich plentyn gallwch wneud hynny a trwy swyddfa’r gwersyll. Mi fyddwn yn hapus iawn i drosglwyddo’ch neges.

Problemau

Gall eich plentyn ymweld â phrif swyddfa'r gwersyll pe bai unrhyw broblemau'n codi fel y gellir delio â'r mater ar unwaith.

Tystysgrif iechyd

Mae'n hanfodol bod pob rhiant/gwarcheidwad yn cwblhau tystysgrif iechyd ar ran y plentyn. Bydd yn cael ei anfon atoch chi cyn i’r gwersyll ddechrau. Nodwch fanylion unrhyw salwch neu broblem a allai fod gan y plentyn, a rhif ffôn pe bai angen i ni gysylltu gyda chi.