Mae Gwersyll Haf yr Urdd yn cynnig anturiaethau i blant a phobl ifanc dros wyliau’r haf. Dewiswch o bedwar gwersyll eiconig yr Urdd lle mae’r gweithgareddau’n amrywio o gyrsiau antur i gyrsiau creu, perfformio, natur a lles.
Mae’r gwersylloedd yn llawn cyffro, gweithgareddau a mwynhad. Gyda cyrsiau newydd sbon y mae mwy o ddewis nag erioed ar gyfer 2025!
Cynllunio eich gwyliau haf? Eisiau gwirio dyddiadau ein gwersylloedd cyn bwcio eich gwyliau teulu?
Dyma ddyddiadau gwersylloedd haf 2025. Byddwn yn agor y ffurflen gofrestru ar 30 Ionawr, 2025 ac yn cynnig cynllun talu rhandaliadau.
Gwersyll |
Cwrs |
Dyddiad 2025 |
Oedran |
Pris |
Pentre Ifan, Sir Benfro |
Galwad y Gwyllt |
21/07 – 25/07 |
Bl. 4-6 |
£290 |
Pentre Ifan |
Galwad y Gwyllt i ddysgwyr |
28/07 – 01/08 |
Bl. 4-6 |
£290 |
Pentre Ifan |
Antur Natur |
04/08 – 08/08 |
Bl. 7-9 |
£310 |
Pentre Ifan |
Cynaliadwyedd a Natur (Addas am agwedd Cwrs Preswyl Dug Caeredin Aur) |
11/08 – 15/08 |
Bl. 10-13 |
£295 |
Pentre Ifan |
Cynaliadwyedd a Natur (Addas am agwedd Cwrs Preswyl Dug Caeredin Aur) |
18/08 – 22/08 |
Bl. 10-13 |
£295 |
Caerdydd |
Dianc i’r Ddinas |
21/07-25/07 |
Bl. 7-9 |
£245 |
Caerdydd |
Cwrs Perfformio |
28/07-01/8 |
Bl. 4-6 |
£220 |
Caerdydd |
Parti'r Brifddinas i Ddysgwyr |
04/08- 08/08 |
Bl. 4-6 |
£245 |
Caerdydd |
Parti'r Brifddinas |
11/08-15/08 |
Bl. 4-6 |
£245 |
Caerdydd |
Cwrs Creu |
19/08-22/08 |
Bl. 7-9 |
£220 |
Caerdydd |
Gwyl Hwyl |
26/08-28/08 |
Bl. 4-6 |
£180 |
Llangrannog, Ceredigion |
Tridie JOIO |
22/07 –24/07 |
Bl. 4-6 |
£155 |
Llangrannog |
Gwersyll Haf i Ddysgwyr |
22/07 – 24/07 |
Bl. 4-6 |
£155 |
Llangrannog |
Wythnos JOIO |
28/07 – 01/08 |
Bl. 4-6 |
£225 |
Glan-Llyn, Gwynedd |
Antur i’r Eithaf |
21/07 – 25/07 |
Bl. 9-10 |
£315 |
Glan-Llyn |
Anturdd Iau |
21/07 – 25/07 |
Bl. 4-6 |
£280 |
Glan-Llyn |
Antur Fawr |
28/07 – 01 Awst |
Bl. 7-8 |
£280 |
Glan-Llyn |
Dysgwyr Uwchradd |
28/07 – 01/08 |
Bl. 7-8 |
£280 |
Glan-Llyn |
Anturdd Iau |
27/08 – 29/08 |
Bl. 4-6 |
£170 |
Glan-Llyn |
Dysgwyr Cynradd |
27/08 – 29/08 |
Bl. 4-6 |
£170 |
Byddwn yn cynnig llefydd am ddim i blant a phobl ifanc cymwys drwy ein Cronfa Cyfle i Bawb. Manylion yma.