Gwyliau Teulu 2025

Y gwyliau teulu perffaith! Cyfle i chi a'ch teulu ymlacio a mwynhau'r holl weithgareddau sydd gan y Gwersyll i'w cynnig, ynghyd a phedwar pryd blasus y dydd, a dim golchi llestri!

Beth yw Gwyliau Teulu Llangrannog? 

Rydym yn cynnig dihangfa berffaith i’r teulu cyfan. Dewch i fwynhau dyddiau llawn gweithgareddau ac i edmygu’r olygfa wrth gerdded ar hyd yr arfordir i’r traeth. Anghofiwch am orfod paratoi unrhyw brydau bwyd ac ymlaciwch yn eich ystafelloedd en-suite.

Dyddiadau 2025

Gwyliau Teulu Pasg 18-20 o Ebrill
Penwythnos Teulu Haf #1   25-27 o Orffennaf
Penwythnos Teulu Haf #2  1-3 o Awst
Tridiau Teulu Haf #3  4-6 o Awst
Penwythnos Teulu Haf #4 5-7 o Fedi
Gwyliau Teulu Hydref  31 o Hydref – 2 o Dachwedd
Gwyliau Teulu Calan 30 o Ragfyr – 1 o Ionawr 2026

Gweithgareddau

Cyrraedd, dadbacio, ymlacio yn barod am benwythnos gyda’r teulu – cewch weld pwy sydd gyflymaf ar y wal ddringo, cyfarfod ein ceffylau, mwynhau golygfeydd godidog, trip i’r traeth – heb anghofio’r hufen iâ!

Llety a Bwyd

Ystafelloedd ensuite gyda gwelyau bync, cyfleusterau gwneud coffi gerllaw yn y lolfeydd, pedwar pryd y dydd wedi eu cognio ar eich cyfer, a dim golchi llestri! Darparir bwydlen ar gyfer pob angen dietegol.

Yr Ardal

Traethau baneri glas, llwybr arfordirol bendigedig, bywyd gwyllt, tafarndai, bwytai cyfagos, teithiau cychod Cei Newydd, dolffiniaid a llawer llawer mwy!

Pris

I gynnwys llety, gweithgareddau a 4 pryd y dydd

2 noson 

Oedolion

£160

Plant 8+

£140

Plant 3-7

£103

Plant o dan 3 (0-2 oed)

Am ddim

 

Am fwy o wybodaeth am gyrsiau teulu Gwersyll Llangrannog ffoniwch 01239 652 140 neu llangrannog@urdd.org

 Dyddiadau ddim yn addas?

Os nad ydi’r dyddiadau hyn yn gyfleus, gallwn deilwra gwyliau i griw o deuluoedd, unrhyw dro yn ystod gwyliau’r ysgol – cysylltwch â ni!