Prydiau Bwyd yn Llangrannog
Mae amseroedd bwyd yn uchafbwynt i nifer, yn enwedig y te traddodiadol Cymreig!
Bob pryd bwyd bydd y canlynol ar gael:
- 2 ddewis o pryd twym (heb gynnwys dewis llysieuol)
- Bar salad - amryw o ddewis
- Pwdin twym neu hufen ia yn yr Haf!
- Dewis o ffrwythau ar gael
Mae yna ddigonedd o amrywiaeth gydag opsiynau i lysieuwyr ynghyd ag unrhyw angen dietegol arall. Er hyn deallwn gall prydau bwyd peri gofid i nifer o ddarpar wersyllwyr a rhieni, a cheisiwn gwneud popeth o fewn ein gallu i dawelu eich ofnau.
Rydym yn arfer a'r anghenion dietegol canlynol a mwy:
- Llysieuwr
- Fegan
- Diabetig - cysylltwch am fwydlen cyfrif carbohydrad
- Di-glwten
- Halal
- Alergeddau - mae'r fwydlen yn tynnu sylw at yr 14 alergenau Asiantaeth Safonau Bwyd.
- Dewis o laeth gwahanol ar gael bob amser a chynnyrch soia ar gael ar gais cwsmer
- Gallwn addasu a darparu dewisiadau gwahanol os gofynnir 'mlaen llaw
Cofiwch nodi unrhyw anghenion dietegol ar y Ffurflen Iechyd. Os ydych eisiau sgwrs pellach croeso i chi gysylltu â ni.
Os hoffech dderbyn copi o'r fwydlen neu gael sgwrs am ddarpariaeth y gegin peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Rhiannon ar 01239 652 148 neu rhiannon@urdd.org.
Mae ffrwythau ffres, dŵr a diod oren ar gael trwy gydol y dydd yn rhad ac am ddim, felly dewch â photel ddŵr i lenwi.
Dyfarnwyd sgôr hylendid bwyd o 5 i’r Gwersyll.