Dyma wersyll yr Urdd sy’n rhoi blaenoriaeth i’r amgylchedd, lles emosiynol pobl ifanc a’r Gymraeg mewn un profiad preswyl hudolus. Rhwng môr a mynydd yng Ngogledd Sir Benfro mae Gwersyll Pentre Ifan yn y lleoliad yn berffaith i drwytho pobl ifanc yn yr amgylchedd ac mewn llonyddwch.
Agorwyd Canolfan Pentre Ifan ym 1992 fel canolfan addysgol gyda’r pwyslais ar addysg amgylcheddol. Dros y blynyddoedd diwethaf datblygwyd Gwersyll Pentre Ifan trwy gymorth rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad Elusennol Tywysog Cymru. Gwnaeth y gwaith cynnwys adnewyddu’r neuadd bresennol a thrawsnewid y pedwar adeilad arall sydd ar y safle yn llety o safon.
Mae Pentre Ifan yn ddihangfa ddigidol sydd yn annog pobl ifanc i gysylltu â’u tirlun amgylcheddol a diwylliannol a phrofi ffordd o fyw sy'n fwy cynaliadwy. Mae'n llecyn diogel i bobl ifanc rannu profiadau, datblygu ymddiriedaeth a pherthnasoedd, datblygu gwytnwch, lles ac i ymarfer meddylgarwch.
Ein nod yw cynnig amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau sydd yn grymuso pobl ifanc i weithio gyda’i gilydd, blaenoriaethu eu lles, dysgu sut i ofalu am ein hamgylchedd a chyfrannu at ddyfodol mwy gwyrdd.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o brofiadau ar gyfer nifer eang o grwpiau gan gynnwys grwpiau ieuenctid, ysgolion, adrannau ac aelwydydd, grwpiau o ffrindiau a theuluoedd. Rydym yn cynnig pecynnau llety yn unig i becynnau profiadau cyflawn gyda bwyd a gweithgareddau- mae profiad at ddant bawb.