Ydych chi’n teimlo’n reddfol am natur? Oes gyda chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa o fewn y sector cynaliadwyedd a Chadwraeth?
Dyma gyfle euraidd i chi ennill profiad mewn gwahanol agweddau ar y sector gan gynnwys sesiynau ymarferol, sgyrsiau gan gyflogwyr a gweithwyr o fewn sefydliadau natur a chadwraeth yn ogystal â gweithgareddau hwyl megis arfordiro.
Os rydych ar ganol ymgeisio am eich Gwobr Dug Caeredin Aur- mae'r cwrs yma yn berffaith am agwedd Gwrs Preswyl y Wobr.
Dyddiad y Cwrs: 24-28 o Chwefror 2025
Oedran: 15-18 oed
Pris: £295
Gweler enghraifft o amserlen y cwrs isod.

