Cynigir y cwrs yma fel ychwanegiad i'n cwrs preswyl Cynaliadwyedd a Natur yr ydym yn rhedeg mewn partneriaeth a WWF. Bydd y cwrs yma yn cael ei redeg o 12 o Awst i 16 o Awst. Er mwyn cofrestru i'r cwrs danfonwch e-bost atom trwy'r ffurflen ar y tudalen yma. Gweler yr amserlen isod.

Dydd Llun 12/8/24

11:00 Cyrraedd, Croeso a Cinio

13;30  Arolwg Gweirglodd a Gloÿnnod Byw

15:00 Sesiwn RNLI ar Traeth Poppit

17:00 Sesiwn Gwylio Adar yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran

18:30 Swper

19:00 Taith Natur Biofflworoleuol yng Nghoedwig Pentre Ifan

20:30 Arolwg Gwyfynnod a Serydda

 

Dydd Mawrth 13/8/24

8:00 Brecwast

9:00 Sesiwn Cadwraeth Afon gyda WWRT ar yr Afon Nyfer

 12:30 Cyrraedd, Croeso a Chinio

13:30 Gweithdy Gwastraff gyda Cadw’ch Gymru’n Daclus

15:00 Egwyl

15:30 Sesiwn Cynefin Ucheldir ar Fryniau’r Preseli gyda sgwrs gan Swyddog Cynaliadwyedd Fferm Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

17:00 Sesiwn Gwylltgrefft

18:00 Swper

19:00 Sesiwn Pyllau trai, glanhau’r traeth ac arolwg natur ar Draeth Trefdraeth

20:00 Gemau Traeth

 

Dydd Mercher- 14/8/24

8:00 Brecwast

9:00 Gadael y Gwersyll a teithio i Dyddewi

10:00 Ymweld â Câr-y-Môr Fferm Adnewyddol Gwymon a chregynpysgod cyntaf Cymru

12:30 Cinio Pecyn

13:30 Sesiwn Arfordiro yn Abereiddy

17:00 Sesiwn Gwylio Morloi ym Mhen Strwmbwl

18:00 Swper

19:30 Taith gerdded natur Biofflworoleuol ac Ystlumod

21:00 Sesiwn Serydda a Ser wib (os yn glir)

 

Dydd Iau- 15/8/24

 

8:00 Brecwast

9:00 Sesiwn Cynefin Coetir yn Nghoedwig Pentre Ifan a Thy Canol yng nghwmni Parcmon Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

11:30 Gweithdy WWF- Actifiaeth Creadigol

12:30 Cinio

1:30 Sesiwn Pridd i'r Plat a bwyd cynaliadwy

16:15 Te ac egwyl

17:00 Sesiwn Ffasiwn Cynaliadwy a Sesiwn Meddwlgarwch

18:00 Swper

19:15 Chwedlau o amgylch y tan a heriau llwythol

 

Dydd Gwener- 16/8/24

8:00am- Brecwast

9:00 Ymweliad i Acwariwm Sea Trust

12:30 Cinio

1:30 Arwyddo ffurflenni Dug Caeredin a ffarwelio