Ein bwriad yw grymuso pobl ifanc i weithio gyda’i gilydd, blaenoriaethu eu lles, dysgu sut i ofalu am ein hamgylchedd a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.
Ym Mhentre Ifan byddwn yn cyflawni hyn trwy gynnig profiadau un dydd i hyd at 4 noson dan adain ein cwrs Cynaliadwyedd a Lles.
Medrwn hefyd deilwra cyrsiau ar gyfer astudiaethau uwchradd fel daearyddiaeth, hanes, Cymraeg, Bagloriaeth Cymraeg a mwy.
Cliciwch ar yr opsiynau isod i ddarganfod mwy:
Bathodyn Ansawdd LOtC
Rydym yn falch o fod wedi derbyn y bathodyn pwysig hwn, sy'n rhoi sicrwydd swyddogol ein bod yn cynnig profiadau addysgol o ansawdd da ac yn rheoli risg yn effeithiol.
