Dewch i aros, bwyta a mwynhau ein gweithgareddau!
Mae’r cyrsiau preswyl yma yn ymdrochi’r preswylwyr yn themâu cynaliadwyedd, lles a natur gan rymuso pobl ifanc i weithio gyda’i gilydd, blaenoriaethu eu lles, dysgu sut i ofalu am ein hamgylchedd a chyfrannu at ddyfodol mwy gwyrdd.
Mae’r pecynnau yma wedi’u creu ar gyfer ysgolion sydd eisiau rhoi profiad preswyl cyflawn i’w ddisgyblion a rhoi cyfle iddynt ddianc yn hollol o’r byd digidol ac i ailgysylltu a'i gilydd a’u hamgylchedd. Gallwn fod yn hollol hyblyg i anghenion eich grŵp a gallwn deilwra’r gweithgareddau i’ch thema benodol.
Gallwch ddewis o brofiad un noswaith i brofiad 4 noswaith- beth bynnag sydd yn siwtio'ch anghenion.
Gyda’r opsiwn yma bydd ein swyddogion yn eich helpu chi i greu'r cwrs preswyl perffaith ar gyfer eich anghenion ac o fewn eich cyllideb. Gyda’r opsiwn yma gallwch ddewis rhai gweithgareddau’r gwersyll a hefyd gweithgareddau allanol. Gallwn helpu chi greu amserlen, trefnu’r gweithgareddau a thrafnidiaeth. Cysylltwch â ni i drafod.