Dyma'r profiad perffaith oes mae amser yn gyfyng ond rydych dal eisiau'ch disgyblion i gael profiad preswyl anhygoel! Mae'r cynigion yma yn berffaith am gwrs preswyl cyntaf!
Gweler isod yr amryw o brofiadau un noson rydym yn ei chynnig:
Galwad y Gwyllt (Trwy’r flwyddyn)
Atebwch alwad y gwyllt a dysgwch sut i amddiffyn ein hamgylchedd i genedlaethau’r dyfodol. Datblygwch sgiliau newydd a gweithiwch gyda’ch gilydd i oroesi sialensiau gwyllt y gwersyll.
Cynefin Celtaidd (Trwy’r Flwyddyn)
Profiad sy’n eich cyflwyno i fynyddoedd y Preseli, sgiliau gwylltgrefft a chwedlau Celtaidd gydag ymweliad a phrofiad Oes Haearn yng Nghastell Henllys.
Hwylnos Calan Gaeaf (Medi- Hydref)
Storiâu Arswyd, taith ysbryd, pwmpen, bywyd gwyllt yr Hydref, taith cerdded ystlumod a natur bioffllworoleuol- dewch os chi’n ddigon dewr!
Nadolig Gwyllt a Gwyrdd (Tachwedd a Rhagfyr)
Dysgwch sut i gael Nadolig diwastraff a naturiol; dysgwch sut i ofalu am fywyd gwyllt y gaeaf a chewch gyfle i gwrdd â’r rhyfeddod unigryw Cymraeg y Fari Lwyd!
Noswyl (Hydref-Mawrth)
Dathlwch ysbrydy nos- y gofod, sêr a natur biofflworloeuol!
Esiampl o Amserlen Hwylnos Galwad y Gwyllt
Diwrnod 1
12:00- Cyrraedd, Croeso a Dril Tan
12:30- Cinio
13:30- Sesiwn Galwad y Gwyllt- Cynefin Coedwig
15:30- Egwyl
16:00 Gwylttgrefft
17:00 Sesiwn ArddArwyr a Ffasiwn Ffantastic
18:00 Swper
19:00 Taith Creaduriaid y Nos a Natur Biofflworoleuol
20:00 Cwis Hwyl a Heriau Llwythol (a sesiwn serydda os yn glir)
Diwrnod 2
8:00 Brecwast Cyfandirol
9:00 Her Galwad y Gwyllt
11:15 Sesiwn Actifiaeth Creadigol a Seremoni Gwobrwyo
12:00 Cinio
13:00 Ymadael