Galwad y Gwyllt
Atebwch alwad y gwyllt a dysgwch sut i amddiffyn ein hamgylchedd i genedlaethau’r dyfodol. Datblygwch sgiliau newydd a gweithiwch gyda’ch gilydd i oroesi sialensiau gwyllt y gwersyll.
Cwrs Lles a Natur
Dyma gyfle i ymlacio a meithrin eich meddwl a'ch corff gyda sesiynau ioga ysgafn, meddylgarwch, myfyrdod mewn natur a gweithdai celf naturiol. Cewch rannu profiadau a mewnwelediadau mewn trafodaethau grŵp cefnogol a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog i adeiladu tîm
Dihangfa Adolygu
Ymunwch â ni i roi lle ac amser i'ch myfyrwyr adolygu mewn lleoliad tawel yn rhydd o wrthdyniadau. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys gweithgareddau lleihau straen fel myfyrdod, teithiau cerdded lles ac ioga. Fydd gennych ddefnydd llawn o’n neuadd hardd, ysbrydoledig a chartrefol yn y Porthdy ar gyfer eich sesiynau adolygu.
Dihangfa Greadigol
Cyfle i roi lle, ysbrydoliaeth ac amser i'ch myfyrwyr cyfansoddi a chreu heb wrthdyniadau. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys gweithdy gydag arbenigwr yn eich pwnc a gweithgareddau a fydd yn helpu sbarduno syniadau mewn lleoliadau naturiol ysbrydoledig.
Hwylnos Penodol i Faes Astudiaeth
Gwaith Maes Daearyddiaeth
Cwrs Hanes ac Archaeoleg
Cwrs Amaeth: Ymweliadau Fferm
Cwrs Busnes a’r Amgylchedd
(Pris y cyrsiau uchod yn cynnwys llety, bwyd a gweithgareddau. Mae’r uchod ar gael fel cwrs 3 diwrnod, 2 noson hefyd am gost ychwanegol.)