Mae Llanymddyfri, cartref Eisteddfod yr Urdd 2023, yn dref marchnad a chymuned yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n gorwedd ar lannau afon Tywi ar gyffordd ffyrdd yr A40 a'r A483, tua 25 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin, 27 milltir i'r gogledd o Abertawe a 21 milltir i'r gorllewin o Aberhonddu.

Daw llawer o ymwelwyr i aros yn Lanymddyfri wrth fwynhau tirweddau hyfryd Sir Gaerfyrddin sy’n ffinio a’r dref. Mae Llanymddyfri wedi ennill cydnabyddiaeth ‘Croeso i Gerddwyr’ sy’n golygu bod y dref yn leoliad deiniadol i gerddwyr, gyda golygfeydd bendigedig.

Wyt ti'n dod i ymweld a'r Eisteddfod eleni? Dyma dudalen defnyddiol i ti gyda awgrymiadau o lefydd i aros a beth i wneud yn ystod dy ymweliad i Lanymddyfri!

 

Maes Carafanau a Gwersylla

Mae Eisteddfod yr Urdd yn cynnig Maes Carafanau a Gwersylla ar fferm Y Tonn sydd o fewn pellter cerdded i faes yr Eisteddfod.

Er mwyn archebu safle mae'n rhaid:

  1. Creu cyfrif ar Y Porth (os nad oes gen ti un yn barod)
  2. Dewis opsiwn ''archebu safle gwersylla yn Eisteddfod yr Urdd'
  3. Creu a chwblhau proffil
  4. Dewis opsiwn 'Archebu safle carafan neu wersylla'
Archebu Lle

Glampio Triban

Ffansi Glampio yn ystod Gwyl Triban?

Archebu Lle