Dyma gyfarwyddiadau bras i chi ddilyn, ac mae fideo gan Adam yn yr Ardd ar gael yma hefyd!
- Dewch o hyd i hen bar o wellingtos, sgidie, berfa, teiar, hen bagiau feed neu unrhyw beth o'r ffarm y bydd yn addas i blannu planhigion ynddynt.
- Bydd angen creu tyllau yn eu gwaelod (os nad oes tyllau ynddynt yn barod wrth gwrs) yn defnyddio sgriwdrifyr neu dril – gofynnwch am help gan eich rhieni!
- Gosodwch ychydig o ro mân yn y gwaelod i helpu’r draeniad, ac ychwanegu compost difawn ynddynt – rhyw hanner ffordd lan am y tro.
- Dewiswch pa blanhigion i blannu ynddynt - gallwch hau hadau yn syth i mewn, neu blannu planhigion amrywiol.
- Sicrhewch bod digon o le i’r planhigion dyfu a sefydlu i greu llond llwybr troed o liw - felly dewiswch yn ofalus!
- Gosodwch gompost o amgylch y gwreiddiau ac yna eu dyfrio’n dda!
Bydd modd i chi adael eich gwaith mewn hybiau ar draws Cymru ar 21 Mai a bydd aelodau o staff yr Urdd yn eu casglu ac yn mynd a’ch gwaith i’r Eisteddfod ar eich rhan. Cofrestrwch eich gwaith yn y ffurflen yma!
Os oes gen ti gwestiwn, cysyllta gyda nannonevans@urdd.org