Mae’r Eisteddfod yn gyffrous i fod yn cydweithio gyda Coed Cadw, sef elusen gwarchod coedwigoedd fwyaf y DU, ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024! Rydym yn ddiolchgar iawn i Goed Cadw am noddi’r Arddorfa eleni – sef ardal gwyrdd o’r Maes sy’n plethu’r amgylchedd a’r celfyddydau a’i gilydd.
Fel rhan o’n cydweithio, rydym yn cyflwyno dwy gystadleuaeth i blant oedran Cyfnod Allweddol 2 yng Nghymru. Dyma gystadlaethau hwyl i ymgysylltu â’r byd awyr agored, gan ddefnyddio eu sgiliau i archwilio byd natur a mwynhau amrywiaeth o gyfleoedd dysgu sy’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru.
Y gobaith yw bydd y cystadlaethau yn annog y disgyblion i ddod i adnabod y byd natur a choedwig bradwrol sy’n eu amgylchynu’n ddyddiol, boed hynny yn eu gerddi neu yn eu parciau lleol.
Mae’r cystadlaethau ar agor o’r 1af o Chwefror 2024 a’n cau ar y 30ain o Ebrill. Gall disgyblion wneud y naill gystadleuaeth neu’r llall, neu’r ddwy.
Caiff cystadlaethau eu beirniadu gan ein panel Coedwigoedd a Choed gan gynnwys Tammie Esslemont, a chaiff yr enillwyr eu cyhoeddi yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd 2024 yn yr Arddorfa. Mae'r pecyn cystadlaetha gyda'r holl wybodaeth ar gael yma.
Pan fydd eich disgyblion wedi cwblhau eu prosiectau, e-bostiwch nhw erbyn 30 Ebrill 2024 i: cystadleuaethcoedcadw@urdd.org