Cystadleuaeth 72. Creu Gwefan Blwyddyn 6 ac iau (unigol neu grwp)
1. Disgrifiad / Cysylltiad â'r Thema : Gwybodaeth am ardal Clocaenog
Mari Lewis, Ysgol Carreg Hirfaeon, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
Cyfeiriad y wefan: www.cwmann.btck.co.uk
2. Grwp Ysgol Clocaenog, Rhuthun
Cyfeiriad y wefan: www.einbro.co.uk
3. Grace Stangroome – Adran Maenclochog, Penfro
Cyfeiriad y wefan: www.stangroome.co.uk\hanesoybooth
Ymdrech dda gan y cystadleuwyr i gyd - mewn oes lle mae gwefannau yn hawlio sylw pobl ifanc. Cynlluniwyd y gwefannau i drosglwyddo’r wybodaeth am y pwnc drwy lun, testun a hefyd fideo.
Roedd y chwe ymgeisydd wedi paratoi strwythur y safle ond roedd ambell i dudalen heb ei gwblhau. Cystadleuaeth agos rhwng yr enillwyr a chrëwyd creu tudalennau taclus – dewiswyd lliwiau cefndirol i greu tudalennau deniadol a oedd yn rhwydd i’w darllen.
Roedd gan y tri gwefan llwyddiannus arddull cyson yn eu strwythur ac roedd hi’n rhwydd mordwyo o bob tudalen.
Crëwyd tudalennau sy’n lawr-lwytho’n gyflym sy’n profi bod y lluniau yn briodol. Dewiswyd maint a lliw'r testun i fod yn glir i bob darllenwr a chadw diddordeb yn y cynnwys.
Ceir sawl cyswllt da i wefannau allanol sy'n berthnasol.
Cip olwg diddorol iawn o froydd y cystadleuwyr.
Cystadleuaeth 73. Creu Gwefan Bl. 7, 8 a 9 (unigol neu grŵp)
1. Phoenix Williams, Gorllewin Morgannwg
Cyfeiriad y wefan: http://yfro.yolasite.com
2. Morgan Lewis, Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
Cyfeiriad y wefan: www.rygbi.btck.co.uk
O ystyried y pwyslais a roir i dechnoleg o fewn cwricwlwm ein hysgolion, braidd yn siomedig oedd derbyn dau wefan yn unig yn y gystadleuaeth hon. Wedi dweud hynny roedd y ddau yn agos iawn gyda thudalennau taclus - lliwiau cefndirol wedi dewis i greu tudalennau deniadol sydd yn rhwydd i’w darllen.
Yn anffodus nid oedd sgiliau iaith cystal â’r sgiliau technoleg gwybodaeth yn y cyntaf ac roedd yr ail safwe yn canolbwyntio ar y tîm lleol mwy na’r fro - ond gwefan ymarferol iawn.
Y ddau wefan yn cynnig golwg diddorol ar eu hardaloedd gyda :-
- Strwythur cyson, lliwiau deniadol ac arddull wedi dewis yn addas - fideo wedi mewnosod yn hybu’r diddordeb
- Cysylltiadau allanol wedi’u dewis sy’n berthnasol iawn i’w hardaloedd.
- Botymau mordwyo yn gyson drwy’r safweoedd ac yn rhwydd i’w defnyddio.