Wedi hir ymaros, datgelwyd heno (nos Lun, 18 Hydref 2021) ar blatfformau digidol yr Urdd mai enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd 2020-21 yw’r awdures Megan Angharad Hunter o Benygroes, Dyffryn Nantlle.
2il a 3ydd: Osian Wyn Owen
Mae’r Urdd hefyd yn falch o gyhoeddi mai Osian Wyn Owen o’r Felinheli sydd wedi ennill yr ail a’r drydedd wobr yn y gystadleuaeth. Mae Osian yn enw cyfarwydd i’r Urdd fel Prifardd Eisteddfod T 2020, ac enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd 2018.