Mwy am Gwmni Theatr yr Urdd
Ers ail-lansio Cwmni Theatr yr Urdd ym mis Medi 2022, rydym wedi cynnig amrywiaeth o brofiadau gwerthfawr i bobl ifanc hyd a lled Cymru. Yn mis Medi 2023, bu’r Cwmni berfformio eu cynhyrchiad cyntaf ar ei newydd wedd, sef Deffro’r Gwanwyn. Roedd y cynhyrchiad yn cynnwys cast o 27 o bobl ifanc rhwng 16-25 oed ac yn gymysg o berfformwyr proffesiynol ynghyd â rhai oedd yn mentro ar y llwyfan i berfformio am y tro cyntaf. Gyda thîm cynhyrchu a chreadigol, a chriw cefn llwyfan, roedd y cyfleoedd i gymryd rhan yn y cynhyrchiad yn amrywiol thu hwnt!
Roedd hi’n braf hefyd cael llais pobl ifanc Cwmni Theatr yn ganolbwynt wrth ail-edrych a datblygu seremonïau Eisteddfod yr Urdd. Wrth i nhw rannu eu syniadau ac wrth i ni wrando ar eu barn, cawsom seremonïau unigryw, cyffrous a chyfoes ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin ac ym Maldwyn eto eleni.
Mae’r Cwmni hefyd wedi bod yn cynnal sesiynau sgiliau mewn gwahanol ardaloedd o Gymru, oedd yn rhoi cyfle i bobl ifanc arbrofi gyda gwahanol agweddau o theatr yng nghwmni unigolion profiadol yn y Maes. Rydym yn gobeithio cynnal sesiynau tebyg eto yn fuan!
Ein cynhyrchiad diweddaraf oedd 'Ble mae trenau'n mynd gyda'r nos a chwestiynau mawr eraill bywyd'. Dechreuodd y sioe unigryw yma gyda 3 Stafell Sgwennu. Cyfle i griw o bobl ifanc ddod at ei gilydd i sgwrsio, chwarae, arbrofi a gofyn cwestiynnau.
Wedi’r Stafelloedd Sgwennu daeth tim o artisitiaid amrywiol at ei gilydd i weu yr holl ddelweddau, straeon a chwestiynau gyda’i gilydd - a dyma fachu ar y syniad o’r teitl, ac yn sgil hynny lleoli ein 12 golygfa ar drên sydd ddim o reidrwydd wedi angori mewn realiti! Aeth y cynhyrchiad ar daith ar draws Gymru yn ystod yr haf, 11 sioe a 6 lleoliad!
Wedi dwy flynedd cyffrous a llwyddiannus ers ail-lansio, mae Cwmni Theatr yr Urdd yn edrych ymlaen am y flwyddyn nesaf, a’n gyffrous i gael parhau i gynnig profiadau gwerthfawr ac amrywiol i’w aelodau. Os hoffet ti fod yn rhan o’r Cwmni neu os oes gen ti ddiddordeb i glywed mwy, llenwa’r ffurflen ddiddordeb ar y dudalen yma!