Teithio i'r Eisteddfod eleni? Dyma sut i'n cyrraedd ni!
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro ym mharc Gwledig Margam, Castell Nedd Port Talbot.
Dilynwch yr arwyddion swyddogol er mwyn cyrraedd y meysydd parcio. Mae’n allweddol bod gyrwyr yn dilyn yr arwyddion melyn pwrpasol ac yn gwrando ar y cynghorion a roddir er mwyn sicrhau bod y traffig yn symud yn hwylus. Gwrandewch hefyd ar yr adroddiadau trafnidiaeth ar y radio.
Nodyn pwysig: Mae yna ddigwyddiad mawr arall yn yr ardal ar ddydd Llun, Mai 26ain felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i gyrraedd.
Gan ddefnyddio Sat Nav – defnyddiwch SA13 2TJ os yn dod o gyffordd 38, neu SA13 2TG os yn dod oddi ar gyffordd 37, yn y sat nav / google maps / Waze / unrhyw offeryn llywio arall.
Cyfarwyddiadau o'r Gorllewin: Dewch oddi ar yr M4 o gyffordd 38. Yng nghyfnewidfa Margam cymerwch yr allanfa 1af ar yr A48 tuag at Bort Talbot / Margam. Mi fydd arwyddion melyn y digwyddiad yn eich cyfeirio at y meysydd parcio o fewn Brif Fynedfa Margam.
What3words: ///merit.possibly.amplifier
Cyfarwyddiadau o'r Dwyrain: Dewch oddi ar yr M4 o Gyffordd 37. Dilynwch ALLANFA A4229 i Borthcawl / Pîl. Yng nghyfnewidfa Pîl, cymerwch y 3ydd allanfa ar y A4229. Wrth y gylchfan cymerwch yr ail allanfa i ffordd Pîl/A48, a pharhewch ar y ffordd hon nes i chi weld arwyddion yr Eisteddfod a fydd yn cyfeirio at feysydd parcio.
What3words: ///alright.steers.irony
Meysydd Parcio
Mae’r meysydd parcio ar gyfer yr Eisteddfod eleni wedi'i gynllunio ar gyfer traffig sy'n dod o’r ddau gyfeiriad oddi ar yr M4 - dilynwch ARWYDDION y DIGWYDDIAD i'r meysydd parcio swyddogol.
Mae'r holl barcio am ddim ac o fewn pellter cerdded i’r Maes.
Bathodynnau Glas
Darperir ardal parcio penodol ar gyfer pobl ag anableddau sy’n ddeiliaid bathodynnau glas.
Dylai ymwelwyr ddilyn yr arwyddion priodol i'w harwain i faes parcio'r Bathodyn Glas, a dilyn yr arwyddion i fynedfa'r maes parcio. Bydd angen arddangos y bathodyn yn y cerbyd.
What3words i’r parcio hygyrch: ///alright.steers.irony
Mae’r meysydd parcio yn agor am 6.30yb. Agorir y Maes am 7.15yb