Beth yw hawl perfformio?

Hawl perfformio yw sicrhau caniatâd i gael perfformio darn o gerddoriaeth, drama, neu unrhyw waith sydd wedi ei hawlfreintio, yn gyhoeddus o flaen cynulleidfa neu ar deledu, radio neu unrhyw ddarllediad arall.

Mae angen cael caniatâd gyn y rheiny sydd berchen yr hawlfraint, rhan amlaf y cyhoeddwr neu y cyfansoddwr gwreiddiol.

Pam bod angen caniatâd i berfformio darn?

Mae pob darn o waith creadigol yn eiddo i rhywun, ac mae angen cael eu caniatâd i berfformio darn, yn union fel byddai angen cael caniatâd gan unigolyn i fenthyg eu eiddo.

Mae pob cystadleuydd angen sicrhau caniatâd gan yr rheiny sydd berchen hawlfraint y darn, sef y cyhoeddwr gwreiddiol neu y cyfansoddwr/awdur cyn yr Eisteddfod Cylch. Heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint, ni fydd yr Urdd yn gallu gadael i’r cystadleuydd berfformio’r darn.

Sut mae cael caniatâd cyhoeddwr i berfformio darn, neu addasiad o’r darn?

Os yw’r cystadleuydd yn perfformio addasiad o’r darn gwreiddiol (cyfieithu’r geiriau, addasiad cerddorol newydd, creu medley, neu defnyddio cân fel rhan o gân actol er enghraifft), yna bydd angen cysylltu â’r cyhoeddwr gyda manylion yr addasiad hwn, a chael caniatâd i berfformio yr addasiad. Mae templed o lythyrau ar gael uchod. Bydd hefyd angen gyrru’r cyfieithiad, a chyfieithiad llythrennol yn ôl i Saesneg, i’r cyhoeddwyr er mwyn iddyn nhw gymeradwyo’r cyfieithiad.

 

Mae manylion cyswllt nifer o gyhoeddwyr yn y Rhestr Testunau, ac mae modd dod o hyd i gyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn ar wefannau y cyhoeddwyr.

Beth sydd angen i mi ei wneud ar ôl cael caniatâd?

Llongyfarchiadau! Uwchlwythwch eich llythyr caniatad wrth gofretsru i gystadlu.

Gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth ar eich ffurflen gystadlu yn gywir hefyd!

 

Oes angen i mi gael caniatâd i berfformio darn gosod?

Nac oes, mae’r Urdd yn cael caniatâd gan y cyhoeddwyr ar ran y cystadleuwyr ar gyfer pob darn gosod. Os yw manylion y darn yn y Rhestr Testunau yna does dim angen i chi gael caniatâd, ond os ydych chi’n perfformio darn hunan-ddewisiad yna bydd angen cael caniatâd y cyhoeddwyr.

Mae bron yn amhosibl i glirio hawlfraint ar ddarnau sy'n ymddangos ar yr IPC Excluded Works List.

Ym mhle ga'i afael ar y rhestr yma?

Dilynwch y linc isod am fanylion caneuon i'w hosgoi:

https://www.prsformusic.com/licences/broadcasting-music-on-tv/ipc-licence

Sut fedra i gael rhagor o gymorth?

Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi darllen y siart lif yn y Rhestr Testunau yn gyntaf. Os oes gennych chi gwestiynau yn dal i fod, yna e-bostiwch eisteddfod@urdd.org

Ceir cymorth pellach ar glirio hawlfraint drwy gysylltu â Adran Gymraeg PRS for Music ar 020 3741 4033 neu e-bostio welshtvprogrammes@prsformusic.com.

 

Am ragor o fanylion a chymorth, cysylltwch â Swyddfa’r Eisteddfod ar eisteddfod@urdd.org

Gwefan PRS