Ysgoloriaeth Geraint George
Mae’r Rheolau Cyffredinol ym mlaen y Rhestr Testunau hefyd yn berthnasol i’r adran hon.
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri er cof am y diweddar Geraint George. Nod yr ysgoloriaeth sy’n agored i unigolion 18-25 oed yw meithrin cyfathrebwyr gwych a all helpu pobl yng Nghymru, a thu hwnt, i werthfawrogi’r byd naturiol a deall y ffactorau sy’n effeithio arno. Gwahoddir cystadleuwyr i anfon gwaith cyfathrebu, mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru
Bydd yr enillydd yn cael dewis un o ddau opsiwn:
i. Ymweliad wythnos â Pharc Cenedlaethol Trigav yn Slofenia ble ceir cyfle i ddysgu am waith y Parc a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
ii. Mynychu cynhadledd Ewroparc a gynhelir mewn gwahanol ran o Ewrop bob blwyddyn, ble ceir cyfle i ddysgu am waith sy’n digwydd mewn gwahanol wledydd ac ymweld â safleoedd.
Gwahoddir gwaith ar ffurf unrhyw un, neu gyfuniad o’r canlynol:
- Ffilm fer [1–3 munud]
- Taflen(ni) [hyd at 3]
- Blog [wythnos fan lleiaf]
- Ysgrif(au) [hyd at 3]
- Eitem sain [1–3 munud]
- Stori/straeon [hyd at 3]
- Erthygl(au) [ hyd at 3]
- Cartwnau [hyd at 6]
- Poster(i) [hyd at 3]
Wrth gofrestru, rhaid uwchlwytho'r gwaith erbyn 1 Mawrth 2024