Yn unol a rheol 11, tudalen 9 yn y Rhestr Testunau, bydd unrhyw newidiadau a wneir i’r Rhestr Testunau yn ymddangos ar wefan Eisteddfod yr Urdd: urdd.cymru/eisteddfod o dan y pennawd Rhestr Testunau / Newidiadau. Os oes unrhyw wahaniaeth yng nghyfieithiad y fersiwn Saesneg, y fersiwn Gymraeg fydd yn cael ei ddilyn.
30/09/2024
111. Dawns Stepio Mewn Arddull Draddodiadol Merched Bl.10 ac o dan 25 oed
Dawns yn dilyn patrymau Morfa Rhuddlan Dawnsiau Ffair Nantgarw, Cymdeithas Ddawns Werin Cymru.
NEU
Hunan-ddewisiad gan ddefnyddio siôl ac alaw Morfa Rhuddlan fel rhan o'r ddawns.
30/09/2024
Ychwanegu is-deitl 'Addurno ar ffabrig' at yr adran 'Tecstilau Creadigol' a'r is-deitl 'Creu ffabrig neu greu eitem allan o ffabrig' at yr adran 'Creu Tecstilau'
25/11/24
Cystadleuaeth 148:
Diweddariad i’r detholiad sydd ar ein gwefan wedi ei wneud ar y 10/11/2024
25/11/2024
Cystadleuaeth 15:
Trefn: Rhagarweiniad, A B B (dim ail adrodd adran A)
25/11/2024
Cystadleuaeth 152:
Newid i reolau’r gystadleuaeth a’r dudalen 43 – ‘Rhaid i'r gân fod yn gân o sioe gerdd’
25/11/2024
Cystadleuaeth 29:
Côr SATB – Curiad 3244
Côr SA – Curiad 2093
Canieteir ffurfio Côr SATB a / neu Gôr SA (a / neu Gôr TB gan ddefnyddio’r copi SA).
25/11/2024
Cystadleuaeth 38:
Newid I’r copi sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth ar ein gwefan.
Pennill 3 - Camgymeriad ar y copi - 'breichiad' wedi cael ei gywiro nawr 'breiched'
Copi wedi ei newid ar ein gwefan ers y 25/11/2024.
13/01/2025
Cystadleuaeth 30 – Côr S.A.T.B. dan 19 oed
Newid i'r copi sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth ar ein gwefan.
Yn yr enghraifft cerddoriaeth o dan pwynt rhif 3- b naturiol, nid b fflat, sydd angen. Yn ogystal- dwy waith sydd angen ail adrodd 'Aberth mawl dy enw di' ar ddiwedd y darn- nid tair.
Copi wedi newid ar ein gwefan ers 13/01/225.
3/02/2025
Dwy gystadleuaeth newydd wedi eu hychwanegu –
393 - Dawnsio Unigol 19-25 oed mewn unrhyw arddull ac eithrio Dawnsio Gwerin
394 – Portffolio Cefn Llwyfan 19-25 oed
12/02/2025
Cystadleuaeth 86 - Unawd Cerdd dant Bl10 a dan 19 oed
Yr unig fersiwn dylid ei defnyddio yw'r fersiwn ar ein gwefan ni - Darnau Gosod 2025 | Urdd Gobaith Cymru sydd wedi cael ei osod yn y cywair gwreiddiol.
Mae wedi dod i'n sylw fod yr goll gyweirnodau yng ngheinciau'r wyl ar gyfer y gystadleuaeth hon yn anghywir. Cysylltwch gyda eisteddfod@urdd.org am fersiynau cywir o gywair F ac A.
12/02/2025
Cystadleuaeth 86 - Unawd Cerdd dant Bl10 a dan 19 oed
Mae yna ddewis o gord fel diweddglo pennill yn y gainc CF5, ac angen i gystadleuwyr nodi cyn perfformio beth yw eu dewis. Cysylltwch gyda'ch swyddog cymunedol i wneud hyn.