Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym mharc Margam rhwng Mai 26 a Mai 31ain 2025.
Mae Tocynnau Maes, Gŵyl Triban a sioeau Cynradd a Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a'r Fro 2025 bellach ar werth ac ar gael i'w prynu.
Bydd tocynnau hefyd ar gael i'w prynu ar y drws. Nodwch bydd y prisau yn cynyddu ar Mai 2il, gwelir y prisiau yma yn y rhestr prisau.
Bydd tocyn Maes dydd Gwener a Sadwrn hefyd yn rhoi mynediad i Ŵyl Triban.
Bydd eich tocyn yn cael ei anfon atoch dros ebost fel e-docyn. Rydym yn eich annog i ddefnyddio eich tocyn fel e-docyn yn hytrach na'i brintio adref.
Tocynnau Hyfforddwyr | Athrawon: Rydym yn cynnig un tocyn oedolyn am ddim ar gyfer pob 10 tocyn cystadleuydd sy’n cael eu archebu mewn un archeb. Bydd y tocyn yma yn cael ei ychwanegu i’ch basged ar ein system docynnau.
Tocynnau Cyfaill: Os yn archebu tocyn hygyrch, bydd opsiwn i ychwanegu tocyn cyfaill am ddim i'ch basged.
Mwy o wybodaeth am docynnau am ddim i deuluoedd incwm is
Chwilio am rhywle i aros yn ystod yr wythnos?
Dyma sut i gyrraedd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a'r Fro 2025.
Mynychu Eisteddfod yr Urdd