Pwy sy’n cymhwyso ar gyfer y tocynnau yma?
Rydych yn gymwys am docynnau am ddim i chi a’ch teulu i Faes yr Eisteddfod os ydych chi’n derbyn un o’r canlynol:
• Cymhorthdal Incwm
• Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
• Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
• Elfen warantedig Credyd Pensiwn
• Credyd Treth Plant
• Credyd Treth Gwaith
• Credyd Cynhwysol
• Aelodaeth Urdd £1