Gŵyl diwedd wythnos Eisteddfod yr Urdd sy’n dod â cherddoriaeth, creadigrwydd a diwylliant ynghyd mewn lleoliad hamddenol a chroesawgar. Gyda bandiau ac artistiaid byw, perfformiadau theatr, bwyd a bar, mae’n ofod perffaith i bawb o bob oedran i fwynhau’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymru.

Dyma'r lein-yp llawn sy'n cynnwys Noson Nwy yn y Nen er cof am Dewi Pws, a Noson yng Nghwmni Huw, Bronwen a ffrindiau. Clicia yma i gael tocynnau Ciw Cynnar cyn yr 2il o Fai!

*Mae tocyn Maes dydd Gwener a Sadwrn yn cynnwys mynediad i Ŵyl Triban*