Cynhyrchiad Agoriadol Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023
Daeth Chwilio’r Chwedl i Faes Eisteddfod yr Urdd 2023 ar y 28ain o Fehefin, dydd Sul cyn yr Eisteddfod i groesawu pawb i Sir Gaerfyrddin mewn steil.
Roedd y cynhyrchiad yn un arbennig o unigryw oedd wedi cyfuno perfformiadau a gwaith celf anhygoel trwy gyfrwng theatr stryd bywiog ar Faes yr Eisteddfod.
Gyda bron i 1,000 o blant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer y prosiect, roedd hi’n arbennig i weld cynhyrchiad yn dod yn fyw yng nghwmni Dewin Myrddin ei hun!
Gyda phob elfen o’r celfyddydau wedi’u plethu a’i gilydd, bu Chwilio’r Chwedl ein croesawu i ardal Sir Gaerfyrddin trwy arddangos hanes yr ardal mewn modd egnïol a chynhwysol dros gyfnod o bedair awr, ar draws safleoedd amrywiol y Maes.
Wnaethoch chi fethu’r cynhyrchiad? Peidiwch a phoeni! Mae modd i chi wylio’r cynhyrchiad yn ôl ar ein sianel YouTube
Clicia yma i weld rhestr cast a noddwyr Chwilio'r Chwedl