Fitzalan x Clogswyr Conwy

Mae Prosiect Plethu Fitzalan High School a Clogswyr Conwy yn plethu stepio traddodiadol Cymreig gyda dawnsio Bollywood a Roma. Mae'r rhythmau, a phatrymau amrywiol yn creu gwledd i'r llygaid a'r clustiau. Mae'r criw o bobl ifanc wedi rhannu eu traddodiadau eu hunain i greu asiad cyfoes sy'n arddangos hunaniaeth. Cafodd y ddawns unigryw yma ei arddangos yn yr Arddorfa, ar Faes Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn eleni.

HIWTI x Ysgol Bro Pedr x PABO

Dyma gyfuniad o waith Mari Gwenllian, potiau Llaeth y Llan ac Ysgol Bro Pedr i gyfeiliant 'Caredig' gan Eden. Roedd cyfle i weld y gwaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Nant Caredig. Noddwyd gan The Royal College of Psychiatrists. Diolch i Arts & Business Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi'r prosiect.

GISDA x Cwmni Theatr yr Urdd: Pob Lliw a Llun

 

Prosiect rhwng grwp o bobl ifanc o GISDA a Cwmni Theatr yr Urdd. Crewyd y sgript gan GISDA i rannu hanes LHDTC+. Roedd y criw ifanc yn rhan o'r cynhyrchu a'r castio gan ddefnyddio aelodau o Gwmni Theatr yr Urdd fel actorion llais. Diolch i gymorth Cyngor y Clefyddydau rhoddwyd profiad o recordio mewn stiwidio proffesiynnol i griw GISDA ac aelodau o Gwmni Theatr yr Urdd. 

Cliciwch yma i wrando ar y prosiect.